Adleoli llyfrgelloedd Ceredigion ‘ddim yn arbed arian’
- Cyhoeddwyd
Bydd penderfyniad posib Cyngor Sir Ceredigion i adleoli llyfrgelloedd "ddim yn arbed arian", yn ôl cyn-Brif Weithredwr Cyngor Sir Dyfed.
Dywedodd John Phillips y byddai cymwynas y llyfrgellydd hanesyddol Alun R Edwards yn "cael ei anghofio", pe bai llyfrgell Llanbed yn cael ei symud o ganol y dref i’r cyrion.
Mae llyfrgell Aberaeron hefyd yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei hadleoli i gyrion y dref.
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, "mae sicrhau atebion arloesol a chost-effeithiol yn hanfodol wrth geisio diogelu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr".
- Cyhoeddwyd26 Mai
- Cyhoeddwyd5 Mai
- Cyhoeddwyd29 Awst 2022
Yn sgil heriau cyllidebol sylweddol, mae cynghorau ar draws Cymru yn gorfod gwneud toriadau.
Ymhlith y 70 o argymhellion gan Gyngor Sir Ceredigion i arbed arian, mae cydleoli llyfrgelloedd gyda gwasanaethau eraill y cyngor.
Un cynllun posib sy’n cael ei ystyried yw adleoli llyfrgell Llanbed, sydd ar Stryd y Farchnad yng nghanol y dref, i’r Ganolfan Les, sydd ar y cyrion.
‘Dyled i’r llyfrgell’
“Rwy’n mynd yn achlysurol i’r llyfrgell ers i mi fod ar ben fy hun,” meddai cyn-Brif Weithredwr Cyngor Sir Dyfed, John Phillips, sy’n byw yn y dref.
“Rwy’n defnyddio’r llyfrgell a bu fy ngwraig hefyd yn defnyddio’r llyfrgell yn gyson, roedd hi’n awdur ac yn scriptiwr teledu, Bethan Phillips.
"Mae dyled gyda ni i raddau helaeth i’r llyfrgell yn Llanbed.”
Yn ôl amcangyfrifon gan Gyngor Sir Ceredigion, mi allai cydleoli llyfrgelloedd y sir gyda gwasanaethau eraill y cyngor arbed hyd at £70,000.
Mae Mr Phillips, serch hynny, yn credu y byddai cymwynas y llyfrgellydd hanesyddol Alun R Edwards, a frwydrodd i sefydlu’r llyfrgell yn Llanbed, yn "cael ei anghofio".
“I adleoli, ry’ch chi’n gwacáu'r llyfrgell bresennol,” meddai.
“Bydd 'na gostau, wrth gwrs, i wneud hynny.
"Dw’i ddim yn gwybod beth yw’r syniad ond bydd e ddim yn arbed arian i’r cyngor.”
Mae’r argymhelliad posib i symud gwasanaeth llyfrgell Llanbed y tu allan i’r dref hefyd yn bryder i berchnogion busnes.
Mae Gabrielle Davies yn rhedeg siop flodau Cadi & Grace, ynghyd â bod yn Faer ar y dref: “Y fwyaf o bethau sy’n cael eu symud mas o’r trefi, mae’r footfall yn mynd lawr.
"Ni 'di colli tri banc yn ddiweddar, dim ond un sydd ar ôl.
"Ni wedi colli’r swyddfa bost mas o’r dre’, a dim jyst yn Llanbed, mae hyn yn digwydd ar draws trefi’r wlad. Mae e yn gwneud gwahaniaeth.”
Ddechrau fis Mehefin, fe dderbyniodd Cyngor Sir Ceredigion ddeiseb wedi’i harwyddo gan 175 o bobl, yn galw ar y llyfrgell i barhau ar Stryd y Farchnad yng nghanol tref Llanbed.
Mae disgwyl ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach yn y mis.
Yn wynebu sefyllfa debyg, mae tref Aberaeron, sydd yng nghanol ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.
Daw hyn wedi i Gyngor Sir Ceredigion argymell adleoli’r llyfrgell o ganol y dref i swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa - lleoliad sydd i fyny rhiw ar ochr ddeheuol y dref.
‘Hollol hurt’
“Dwi’n gweld e’n benderfyniad hollol, hollol hurt” meddai Lena Jenkins, sy’n byw yn Aberaeron ac yn aelod o lyfrgell y dref.
“Sut mae pobl yn mynd i gyrraedd lan fan ‘na? Ma’ ramp gyda ni fan hyn. Dw’i wedi gweld pobl yn defnyddio’r ramp oherwydd trafferthion symud, o bob oedran, sut maen nhw’n mynd i gyrraedd lan top y rhiw?
"Dyw bysys ddim yn mynd yn aml a hefyd mae croesi’r brif hewl, mae e’n amhosib, yn enwedig amser hyn y flwyddyn. ”
Hygyrchedd safle Penmorfa yw pryder Maer y dref, Aled Davies, hefyd.
“Gath Penmorfa ei adeiladu nôl yn y 90au. Gath y cashdesk ei symud o’r dref i fyny i Benmorfa, a welon ni dipyn llai o bobl yn cerdded lan y rhiw oherwydd bod nhw jyst ffili ‘neud e," meddai.
"Aeth y footfall lawr i tua 30% o beth o’dd e, a pan na'th y gwasanaeth symud nôl lawr i’r dref, aeth y rhifau nôl lan.
"Mae’r un peth yn mynd i ddigwydd gyda symud y llyfrgell, dyw e jyst ddim yn gwneud sens o gwbl.”
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Bu'n rhaid i'r Cyngor ystyried ystod eang o arbedion effeithlonrwydd er mwyn cyflawni cyllideb gytbwys ar ôl derbyn grant cymorth refeniw llai na'r disgwyl.
"Gyda chynnydd uchel yn nhreth y cyngor, ystyriwyd 70 o gynigion ar draws holl wasanaethau'r Cyngor, er mwyn sicrhau arbedion o £5.8 miliwn.
"Mae nifer o'r cynigion hyn yn gofyn am ymgynghoriadau cyhoeddus, gan gynnwys adleoli llyfrgelloedd posibl.
"Trwy gydleoli gwasanaethau gyda'i gilydd, nod y Cyngor yw rhesymoli ei ystâd a, lle bo'n briodol, defnyddio gofod gwag i greu cyfleoedd i fusnesau lleol. Mae sicrhau atebion arloesol a chost-effeithiol yn hanfodol wrth i ni geisio diogelu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr mewn hinsawdd ariannol heriol.
"Er nad oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yn hyn, mae cynigion ar gyfer dwy lyfrgell yn cael i’w datblygu.
"Datblygwyd cynnig ar gyfer llyfrgell Aberaeron ac mae'n rhan o ymgynghoriad cyhoeddus parhaus ac yr ydym yn annog partïon sydd â diddordeb i ymateb iddo.”
Mi fydd yr ymgynghoriad ar Lyfrgell Aberaeron yn dod i ben ar 9 Gorffennaf 2024.