Achub caffi ym Mangor ddyddiau ar ôl cau

Bwyd Da Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caffi hefyd yn fenter sy'n rhoi pecynnau bwyd i deuluoedd mewn angen

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod olaf mis Mawrth fe gyhoeddodd Caffi Bwyd Da ym Mangor eu bod yn cau eu drysau am y tro olaf ar ôl wynebu heriau ariannol.

Roedden nhw angen cyllid o £150,000 i gynnal y lle a doedd hynny ddim yn bosib.

Ond erbyn hyn mae 'na newyddion da i bobl Bangor wrth i berchnogion newydd gymryd yr awenau.

Dywedodd rheolwr y caffi fod y cyhoeddiad yn newyddion "mor hapus".

Mae'r safle yn gartref i siop goffi, siop fferm a bwyty, ond mae hefyd yn fenter sy'n ailddosbarthu stoc dros ben o archfarchnadoedd, yn cynnig banc bwyd a phecynnau bwyd i deuluoedd mewn angen yn ogystal â hyfforddi staff.

'Pennod gyffrous'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyfrif 'Bangor yn Gyntaf' eu bod wedi cymryd yr awenau ac am adfywio'r caffi.

"Rydym yn gyffrous i gyhoeddi fod Bangor yn Gyntaf wedi cymryd awenau o fusnesau Bwyd Da Bangor yn swyddogol," meddai'r neges.

"Mae hwn yn nodi pennod gyffrous newydd wrth i ni adeiladu ar sylfaen wych Bwyd Da a'i droi i fod yn hwb fywiog sy'n cefnogi busnesau lleol, sy'n dathlu cynnyrch lleol ac yn dod â'r gymuned ynghyd."

Bwyd Da BangorFfynhonnell y llun, Bwyd Da Bangor

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd rheolwr Bwyd Da, Jason Hughes fod "pawb yn Bwyd Da mor hapus am hyn a 'da ni'n ddiolchgar i Bangor yn Gyntaf am y gefnogaeth".

"Da ni'n edrych ymlaen at bobl ddod yma i weld be 'da ni'n 'neud," meddai.

"Fydda ni'n gwneud mwy o fwyd fresh a phethau yn y nos fel masterclasses coginio."

Aeth ymlaen i ddweud eu bod yn gobeithio gallu ailagor ddydd Sadwrn neu ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig