Cefnogwyr yn falch o weld merched Cymru ar y llwyfan rhyngwladol

Disgrifiad,

Gwenno, Manon a Beca - oedd yn rhan o griw band pres o Lanrug fu'n chwarae yn y dorf - fu'n rhoi eu hymateb nhw i'r achlysur

  • Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Cymru yn y Swistir yn dweud eu bod yn parhau'n obeithiol er gwaethaf colli yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025.

Colli 0-3 wnaeth merched Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd nos Sadwrn, a dyma'r tro cyntaf erioed iddyn nhw chwarae yn un o'r prif bencampwriaethau.

Wedi'r gêm dywedodd y rheolwr a'r chwaraewr bod angen iddyn nhw wella cyn herio Ffrainc a Lloegr yn eu dwy gêm nesaf.

Ond dywedodd cefnogwyr Cymru y tu allan i Stadion Allmend yn Lucerne ei bod yn wych gweld y tîm ar y llwyfan rhyngwladol o'r diwedd.

Manon Elwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Manon ei bod yn "anhygoel bod Cymru wedi cyrraedd yma fel gwlad fechan"

Roedd Manon Elwyn, 31 o Dregarth ger Bethesda, yn rhan o griw o chwe aelod band pres o Lanrug fu'n chwarae cerddoriaeth yng nghefnogwyr Cymru yn ystod y gêm

Dywedodd fod hynny'n brofiad "swreal".

"Doedd o ddim yn teimlo fel bo' ni yna go iawn," meddai.

Yn trafod y gêm, dywedodd ei bod yn "anhygoel bod Cymru wedi cyrraedd yma fel gwlad fechan".

Yn edrych ymlaen at herio Ffrainc nos Fercher, dywedodd ei bod yn dal yn obeithiol.

"Maen nhw'n chwarae'n dda. Mae 'na lot o heriau ar y ffordd, ond dwi yn gobeithio am y gorau," meddai.

Gwenno
Disgrifiad o’r llun,

"Oeddan ni'n gw'bod ei bod hi'n mynd i fod yn gêm galed a bod yr Iseldiroedd yn dîm da," meddai Gwenno

Roedd Gwenno Pritchard, 39 o Lanrug, hefyd yn rhan o'r band pres fu'n chwarae yn y dorf, a dywedon nhw eu bod wedi cael croeso "mor wresog".

Dywedodd fod y canlyniad ychydig yn siomedig, ond "mi oeddan ni'n gw'bod ei bod hi'n mynd i fod yn gêm galed a bod yr Iseldiroedd yn dîm da".

"Oedd o jest mor, mor anodd cael rhywfaint o'r bêl.

"Felly gobeithio y byddan nhw'n gallu adeiladu hyder.

"Mae hi hefyd yn ofnadwy o boeth yma, felly dwi'n siŵr bod hwnna wedi bod yn andros o anodd i'r merched - chwarae yn y gwres, lle 'da ni rili ddim wedi arfer."

Er y golled, dywedodd ei bod hi'n "obeithiol bob amser yn cefnogi Cymru".

Beca
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca yn gobeithio y bydd awyrgylch y cefnogwyr yn hwb i'r tîm yn y gemau nesaf

Roedd Beca Evans, 22 o Gaerdydd, hefyd yn rhan o'r un criw, a dywedodd ei bod "fel breuddwyd" cael chwarae ynghanol y cefnogwyr.

"Fi dal methu credu bod ni wedi cael chwarae yn y stadiwm," meddai.

Yn edrych ymlaen dywedodd:"Ni dal yn obeithiol.

"Fi'n credu bod y naws mae'r ffans yn rhoi yn y stadiwm, fi'n siŵr y byddan nhw'n parhau gyda hynny i'r gemau nesaf.

"Mae brwdfrydedd y ffans fi'n credu yn mynd i gario trwyddo, a 'neith hwnna roi'r boost sydd ei angen ar y chwaraewyr i gadw'u pennau nhw lan.

"Maen nhw'n haeddu bod yma a 'naethon nhw chwarae'n dda er bo' nhw wedi colli."

Eleri a Carys Gittins
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eleri a Carys Gittins yn dal yn falch iawn o'r tîm er gwaetha'r canlyniad

Er y golled, roedd Carys ac Eleri Gittins wedi mwynhau ac yn falch iawn o weld Cymru'n chwarae ym mhencampwriaethau Ewrop.

"Mae hi wastad yn anodd colli, ond 'da ni dal yn falch iawn bo' ni wedi gwneud hi. Mor falch o'r merched, sydd wedi gweithio mor galed," meddai Carys, 20.

Ychwanegodd Eleri, 52: "Dwi dal mor falch - mor falch i fod yma, mor falch i weld Cymru yma."

Disgrifiad,

"Mae'n rhaid i ni fod yn well" - Ffion Morgan

Wedi'r gêm dywedodd Ffion Morgan, a ddaeth i'r maes fel eilydd yn yr ail hanner, y bu hi'n gêm "galed iawn".

"Wrth gwrs ni'n falch i fod 'ma, ond mae honna yn wers fawr i ni. Mae'n rhaid i ni fod yn well yn y ddwy gêm nesa'.

"Mae'n dipyn o groeso i dwrnament enfawr fel hyn.

"Fyddwn ni'n mynd nôl, edrych ar y gêm a dysgu, a gobeithio y byddwn ni'n mynd mas a rhoi perfformiad gwell na hwnna."

Er gwaetha'r canlyniad, dywedodd bod y cefnogwyr wedi bod yn "ffantastig".

Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian Wilkinson fod angen i'r garfan "ddysgu a thyfu o hyn"

Yn siarad wedi'r gêm, dywedodd y rheolwr Rhian Wilkinson bod y gôl ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi newid y gêm yn llwyr.

"Mae angen i ni ddysgu a thyfu o hyn, ac edrych ymlaen at y gêm nesaf nawr," meddai.

"'Ni'n gwybod bo' ni mewn grŵp anodd, ond mae hyn am Gymru'n troi lan a dangos pwy ydyn ni cymaint â phosib - fel tîm ac fel gwlad."