Ai pobl ifanc sy'n gyrru'r farn ar annibyniaeth i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Dyw annibyniaeth i Gymru ddim ar frig maniffesto unrhyw blaid yn yr etholiad cyffredinol eleni.
Ond mae arolygon barn diweddar yn awgrymu y byddai nifer o bobl ifanc yn croesawu'r cyfle i bleidleisio ar dynnu Cymru o'r DU.
Wrth gael eu holi sut y bydden nhw'n pleidleisio pe bai refferendwm yn cael ei chynnal yfory, dywedodd 57% o bobl 25-34 oed a 40% o bobl 16-24 oed y bydden nhw'n pleidleisio o blaid annibyniaeth i Gymru.
Ond yn gyffredinol, 30% oedd canran y rhai oedd o blaid hynny.
Daeth y canlyniadau hynny o arolwg o 878 o bobl yng Nghymru gan gwmni Redfield & Wilton ym mis Mawrth eleni, dolen allanol.
Gyda materion eraill yn uwch ar yr agenda i'r pleidiau, ydy annibyniaeth yn flaenoriaeth i bleidleiswyr Cymru?
Yr wythnos hon bydd Evan Powell, 21 o Gefn Hengoed yn sir Caerffili, yn pleidleisio yn ei etholiad cyffredinol cyntaf.
Tra bydd y bleidlais hon yn dylanwadu ar bwy sy'n llywodraethu yn San Steffan, mae’n dweud bod "Cymru annibynnol yn bwysig i mi gan ei fod yn rhoi’r cyfle i’n cenedl ymdrechu am ddyfodol gwell heb unrhyw ymyrraeth gan San Steffan”.
Pêl-droed oedd y prif reswm y dechreuodd Evan ymddiddori mewn annibyniaeth.
Mae gorymdeithiau sy’n cael eu trefnu gan Gefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth wedi cael eu cynnal cyn nifer o gemau Cymru.
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Dywedodd eu bod yn "allweddol" wrth gwrdd â phobl â barn debyg.
"Rwy'n credu bod pêl-droed Cymru yn mynd law yn llaw â chefnogi annibyniaeth," meddai.
“Pêl-droed yw un o’r ychydig ffyrdd y mae Cymru’n cael ei gweld fel cenedl annibynnol, yn enwedig pan rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gystadlu mewn sawl twrnament.
"Mae pobl ifanc Cymru wedi eu dadrithio gyda Phrydeindod yn ei gyfanrwydd dwi'n meddwl.
“Mae blynyddoedd o gamreoli o dan Lafur yng Nghaerdydd a’r Torïaid yn Llundain wedi arwain pobl i’r pwynt lle maen nhw’n gofyn 'pam ydyn ni’n dioddef hyn?'
“Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi fy hun, yn gweld undebaeth fel pwnc hen ffasiwn sy’n cael ei gefnogi gan genhedlaeth hŷn, i raddau helaeth.”
Nid sydd pawb sydd am weld Cymru'n wlad annibynnol.
Mae Tom Hughes yn 26 ac o Abergwaun yn un o'r bobl ifanc sy'n credu y dylai'r wlad aros yn rhan o'r DU.
Mae'n aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y gorffennol.
Mae bellach yn gweithio yn y fyddin.
Dywedodd fod "cymysgedd o resymau personol a phragmatig" wedi arwain at ei farn am annibyniaeth.
“O’m safbwynt i, roedd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn niweidiol iawn i gyfleoedd pobl ifanc, a dyna fyddai hynny eto drwy adael y DU.
“Rwy’n teimlo y dylai gadael yr UE fod yn rhybudd enfawr am y math o ddifrod y gall hwn [annibyniaeth] ei wneud.”
Dywedodd Tom ei fod yn teimlo na fyddai Cymru annibynnol wedi rhoi’r un cyfleoedd iddo ef na phobl ifanc eraill, o'i gymharu â Chymru fel rhan o’r DU.
“Rydw i wedi bod yn gweithio ym maes amddiffyn, a’r holl gyfleoedd rydw i wedi’u cael, fydden i ddim wedi cael y cyfleoedd hynny mewn Cymru annibynnol, yn ôl pob tebyg.”
Edrychwch ar y materion sy'n poeni pobl fwyaf yn yr etholiad hwn - iechyd, yr economi, costau byw sydd ar y brig.
Mae annibyniaeth yn dod yn isel iawn ar y rhestr. Mae 'na faterion sy'n llawer pwysicach i bobl ar hyn o bryd.
Mae hyd yn oed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn cyfaddef nad etholiad am annibyniaeth yw hwn.
Ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn fater sy'n cael ei anwybyddu’n llwyr.
Mae annibyniaeth ym maniffesto Plaid Cymru a’r Blaid Werdd Gymreig, ond mae'n nod hir dymor yn hytrach nag ymrwymiad cadarn i refferendwm fel y gwelsom ym maniffesto diwethaf Plaid Cymru.
Ond mae'n cael ei anwybyddu gan y blaid Lafur - plaid fwyaf Cymru - a hynny er bod nifer cynyddol o bobl ifanc, hyd yn oed o fewn eu plaid eu hunain, yn dangos diddordeb mewn annibyniaeth.
Beth yw barn y pleidiau ar annibyniaeth?
Dywedodd Llafur Cymru "mai’r ffordd orau o wasanaethu buddiannau Cymru yw setliad datganoli cryf o fewn DU gryfach.
“Mae Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy’n gweithio mewn partneriaeth â’n Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi ymrwymo i drosglwyddo mwy o bwerau allan o San Steffan a dod â phwerau gwneud penderfyniadau yn nes at gymunedau yr effeithir arnynt.”
Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn credu mai annibyniaeth yw'r "cyfrwng gorau i wella bywydau pobl Cymru, drwy dorri’r sefyllfa bresennol yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi torri".
"Mae’n cynnig y cyfle i Gymru ddod yn gymdeithas decach a mwy llewyrchus - cymdeithas lle mae tlodi plant yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol, gydag economi gref sydd â buddiannau cymunedau Cymreig yn ganolog iddi."
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eu bod "yn credu mewn ffederaliaeth a datganoli - nid ydym yn credu mewn gosod mwy o rwystrau neu ffiniau".
"Byddwn yn parhau i wthio am fwy o bwerau datganoledig yma yng Nghymru, gan roi llais i’n cymunedau lleol yn y ffordd y mae ein gwlad yn cael ei rhedeg.”
Dywedodd Reform UK eu bod yn "credu’n gryf yng nghryfder a buddion yr Undeb, ac rydym yn teimlo'n gryf yn erbyn chwalu’r Deyrnas Unedig".
"Credwn fod Cymru, ynghyd â’r Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, yn gryfach ac yn fwy llewyrchus fel rhan o wlad unedig. Undod yw ein cryfder, ac mae’n hanfodol i sicrhau dyfodol mwy disglair i’n holl ddinasyddion, yn enwedig y genhedlaeth iau."
Dywedodd Plaid Werdd Cymru y "byddai annibyniaeth i Gymru yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau ar gyfer ein dyfodol ein hunain yn hytrach na bod yn ddibynnol ar San Steffan".
“Fe allen ni ddewis ein perthynas ein hunain gyda gwledydd eraill a’r UE. Byddem yn rheoli ein seilwaith ein hunain, gan allu buddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus, tai ac ynni gwyrdd i wneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo."
Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb y Ceidwadwyr Cymreig.