Hain: 'Rhaid cael gwladwriaeth les sy'n creu cyfle nid cosbi'

Roedd yr Arglwydd Hain yn siarad wrth i Lywodraeth y DU baratoi i amlinellu newidiadau i'r system les yn ddiweddarach yr wythnos hon
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog cabinet ac Aelod Seneddol o Gymru fu'n gyfrifol am ddiwygio budd-daliadau anabledd, pan oedd Llafur mewn grym ddiwethaf yn San Steffan, wedi sôn am yr angen i greu "cyfle" yn hytrach na gwladwriaeth les sy'n "cosbi".
Roedd yr Arglwydd Hain yn siarad wrth i Lywodraeth y DU baratoi i amlinellu newidiadau i'r system les yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae 'na ddyfalu y gallai gweinidogion ailystyried cynlluniau i rewi rhan fawr o'r bil budd-daliadau sef taliadau annibyniaeth personol.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall, yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU yn ystod yr wythnos
Wrth siarad ar Politics Wales, dywedodd yr Arglwydd Hain, oedd yn ysgrifennydd gwladol dros waith a phensiynau pan oedd Gordon Brown yn brif weinidog: "Dydyn ni ddim eisiau gwladwriaeth les sy'n cosbi, dydyn ni ddim eisiau cosbi pobl sydd angen cefnogaeth, a gall bywyd yn y sefyllfa yna fod yn eithaf anodd.
"Ry' ni eisiau gwladwriaeth les sy'n cynnig cyfle, sy'n helpu pobl i gael y cyfleoedd sydd mas 'na iddyn nhw, yn enwedig pobl ifanc.
"Mae hynny'n hanfodol er eu lles eu hunain, eu dyfodol ac ar gyfer eu hiechyd meddyliol a chorfforol.
"Ry'ch chi'n iachach yn gyffredinol mewn gwaith a dyna'r nod, nid cosbi pobl.
"Mae'n fy atgoffa i o pan ddaethon ni i rym fel Llywodraeth Lafur, yn 1997.
"Mi oedd hi'n llanast llwyr gyda miliynau o bobl yn cael budd-dal analluogrwydd a budd-daliadau eraill - pobl oedd byth yn mynd i fod â chyfle i weithio ond mi wnaethon ni gyflwyno'r Fargen Newydd wnaeth bron â chael gwared ar ddiweithdra pob ifanc yn yr hirdymor.
"Dwi'n credu gallwn ni ei wneud e eto oherwydd ry' ni wedi etifeddu llanast tebyg.
"Dyw'r wladwriaeth les ddim yn helpu pobl a dyw e ddim yn helpu pobl i adeiladu dyfodol newydd."
Dywedodd cyn-AS Castell-nedd mai un o'r rhesymau nad oedd economi'r DU wedi gwella yn yr un ffordd ag eraill ers Covid oedd oherwydd nifer y bobl ar fudd-daliadau ond rhybuddiodd ei bod yn ddrud cael pobl "yn barod am swydd".
Ychwanegodd: "Mae angen amddiffyn y rhai ag anableddau difrifol ond mae llawer o bobl allai weithio."
'Gwthio pobl anabl i dlodi'
Mae Luke Young, pennaeth polisi Cyngor ar Bopeth, wedi rhybuddio bod tua 150,000 o bobl yng Nghymru mewn perygl o golli hyd at £400 y mis os yw'r cymhwyster ar gyfer rhai o'r budd-daliadau yn cael ei gyfyngu ond mi groesawodd adroddiadau sy'n awgrymu na fyddai'r bwriad i rewi taliadau annibynniaeth personol yn digwydd.
"Byddai'n rhy niweidiol. Byddai'n gwthio pobl anabl i dlodi ac nid mewn i waith. Fydde fe ddim yn cael y canlyniad a ddymunir.
"Mae hwn yn gefnogaeth sy'n hanfodol i unigolion. Dyw rhain ddim yn symiau hael o arian. Does yr un budd-dal yn y wlad hon sy'n caniatáu i rywun fyw bywyd moethus.
"Mae'r taliadau hyn yn arbennig, ar gyfer y bobl fwyaf anabl er mwyn caniatáu iddyn nhw fyw eu bywydau bob dydd," meddai.
Dywedodd Mr Young ei fod yn ffafrio rhai newidiadau - fel dod â mwy o asesiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â newid y berthynas rhwng hyfforddwyr gwaith canolfannau gwaith a'r rhai sy'n hawlio'r budd-dal.
"Mae'n rhaid i ni wneud yn siwr fod 'na swyddi yna.
"Pan mae'r llywodraeth yn siarad am gael pobl nôl i waith – ar gyfer yr unigolion hynny sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hir-dymor, mae'n rhaid fod gwaith rhesymol ar gael."