Cyhoeddi prif swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2026

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

John Davies - cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro - fydd cadeirydd y pwyllgor gwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn ystod y flwyddyn a hanner nesaf.

Yn gynharach eleni fe gadarnhaodd yr Eisteddfod mai Sir Benfro fydd cartref y brifwyl yn 2026 ond bydd dalgylch yr ŵyl yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yng Ngorffennaf nodwyd y byddai'r Brifwyl yn cael ei chynnal yn Llantwd - safle sydd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Cheredigion.

Mae Eisteddfod 2026 hefyd yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Pwy yw'r swyddogion?

John Davies sydd wedi ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor gwaith.

Yn gyn-arweinydd ar Gyngor Sir Penfro, mae Mr Davies wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff a sefydliadau cenedlaethol.

Mae’n awyddus i Eisteddfod 2026 bontio rhwng y tair ardal, gan annog trigolion cymunedau ar draws y dalgylch i ddod ynghyd dros y cyfnod nesaf wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Carys Ifan, Tegryn Jones, Cris Tomos a Non Davies

Mae Tegryn Jones wedi’i ethol yn is-gadeirydd strategol Eisteddfod 2026.

Mae ganddo’r profiad o weithio’n rhanbarthol ar draws y tair sir sy’n rhan o’r dalgylch drwy’i waith fel prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Carys Ifan sydd wedi’i hethol yn is-gadeirydd diwylliannol.

Daw'n wreiddiol o Landudoch, mae'n byw yn Llangrannog ac yn gweithio yn Sir Gâr.

Hi yw cyfarwyddwr Canolfan Egin ac mae felly wedi gweithio ar nifer o brosiectau diwylliannol ac wedi gwirfoddoli ar weithgareddau a digwyddiadau artistig a cymunedol ar hyd a lled y dalgylch.

Cris Tomos sy’n gyfrifol am gronfa leol Eisteddfod 2026.

Mae Cris wedi gweithio yn y sector datblygu cymunedol ers dros 30 mlynedd, ac wedi cefnogi grwpiau cymunedol a hyrwyddwyr i godi arian ar gyfer mentrau cymunedol a chwmnïau cydweithredol o bob math.

Mae’n gweithio i PLANED - elusen datblygu cymunedol sy’n cefnogi mentrau cymunedol ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ysgrifennydd y pwyllgor gwaith yw Non Davies. Mae’n rheolwr corfforaethol dros ddiwylliant a’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ceredigion, ac yn gofalu am Theatr Felinfach, gwasanaeth cerdd y sir, Amgueddfa Ceredigion a CERED: Menter Iaith Ceredigion.

Roedd hi’n gadeirydd pwyllgor cronfa leol Aberteifi a’r cylch ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn 2022, ac yn is-gadeirydd y gronfa leol ar draws y dalgylch.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol bod y gwaith o greu’r pwyllgorau testun eisoes wedi cychwyn, a’r cyfarfodydd i gytuno ar gystadlaethau a beirniaid yn mynd yn eu blaen, er mwyn sicrhau fod y rhestr testunau’n barod erbyn y gwanwyn.

Bydd y rhai sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r pwyllgorau lleol yn pleidleisio er mwyn ethol swyddogion y pwyllgor gwaith dros yr wythnosau diwethaf.

'2026 yn flwyddyn bwysig'

Wrth groesawu’r tîm, dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda John a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2026.

“Mae hi bron yn chwarter canrif ers cynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal.

"Mae 2026 yn flwyddyn bwysig wrth i ni ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi nôl yn 1176.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithredu mewn ffordd newydd mewn dalgylch sy’n cynnwys rhannau o ddwy sir arall, sy’n gyfle i ni gael cydweithio unwaith eto gyda thrigolion Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.”

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Llantwd o 1-8 Awst 2026.

Pynciau cysylltiedig