Athrawes 'dan ddylanwad alcohol' ac 'wedi rhegi ar ddisgyblion'

Roedd Alice Ashton yn arfer bod yn athrawes yn Ysgol Bro Caereinion ger y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-athrawes ysgol ym Mhowys yn wynebu honiadau ei bod wedi rhegi ar ddisgyblion ac wedi bod o dan ddylanwad alcohol wrth roi gwersi.
Mae'n cael ei honni bod Alice Ashton wedi rhegi ar blant wrth addysgu yn Ysgol Bro Caereinion ger y Trallwng.
Clywodd banel Cyngor y Gweithlu Addysg Cymru [CGA] honiadau bod Ms Ashton yn ymddangos fel ei bod o dan ddylanwad alcohol, neu'n arogli o alcohol, tra'i bod yn yr ysgol a'i bod hi wedi defnyddio iaith amhriodol gyda disgyblion.
Clywodd y gwrandawiad hefyd fod Alice Ashton wedi'i chael yn euog o yfed a gyrru ym mis Medi 2023 yn Llys Ynadon Telford, am fod dros y terfyn cyfreithiol ar 19 Awst.
Cafodd hi ei dedfrydu ar y pryd i orchymyn cymunedol 12 mis, 200 awr o waith di-dâl a'i gwahardd rhag cael trwydded yrru am 28 mis.
Doedd Alice Ashton ddim yn bresennol yng ngwrandawiad y CGA, ond yn ystod yr ymchwiliad gwadodd iddi regi yn ystod gwersi.
'Dawnsio'r Macarena o amgylch y dosbarth'
Ar ail ddiwrnod y gwrandawiad clywodd y panel gan Ddisgybl H, merch a gafodd ei haddysgu gan Alice Ashton ddwywaith yr wythnos am tua thri mis.
Disgrifiodd Disgybl H wers Addysg Bersonol a Chymdeithasol – pwnc sy'n cynnwys ymwybyddiaeth o gyffuriau ac alcohol – a gafodd ei ddysgu gan Alice Ashton ar 17 Ionawr 2024.
Honnodd y disgybl fod Miss Ashton yn dawnsio'r Macarena o amgylch yr ystafell ddosbarth yn ystod y wers ac yn ceisio cael y disgyblion i ymuno.
Dywedodd Disgybl H hefyd y byddai Miss Ashton yn aml yn cymryd cegaid o ddiod o botel ddŵr Evian, a oedd yn ymddangos fel pe bai'n llawn sudd oren neu ddiod oren.
Gan ei bod hi'n eistedd ger desg yr athro, dywedodd Disgybl H ei bod wedi sylwi bod arogl alcohol yn dod o'r botel Evian, a dywedodd ei bod wedi rhannu 'golwg wybodus' gyda disgybl arall a oedd yn eistedd gerllaw.
Dywedodd Disgybl H hefyd fod Miss Ashton yn gwenu ac yn hapus ar ddechrau'r wers ac yn codi o'i desg yn gyson, ond ei bod wedi colli ei thymer fwyfwy wrth i'r wers fynd yn ei blaen.
Dywedodd Disgybl H fod Ms Ashton wedi rhegi ar y dosbarth cyfan wrth iddyn nhw fynd yn swnllyd, gan godi un bys ar un bachgen ar un pwynt.
Ychwanegodd y ferch nad oedd hi'n cofio beth yn union gafodd ei ddweud, ond wrth gael ei holi - dywedodd ei bod hi'n wers "wahanol iawn" i'r rhai arferol gan Ms Ashton.

Cafodd Alice Ashton ei dyfarnu'n euog o yfed a gyrru ym mis Medi 2023 yn Llys Ynadon Telford
Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad ddydd Llun, clywodd y panel gan Lorna Simpson, swyddog ymchwilio wnaeth gyfweld nifer o ddisgyblion oedd yn y wers ar 17 Ionawr.
Lewis Harrison sy'n cyflwyno'r achos dros y CGA, a dywedodd yn ei gyflwyniad clo fod y disgyblion wedi darparu corff mawr o dystiolaeth i gefnogi'r honiadau bod Alice Ashton wedi ymddangos fel ei bod o dan ddylanwad alcohol ac wedi defnyddio iaith amhriodol ym mhresenoldeb disgyblion.
Dywedodd Mr Harrison ei fod yn gwahodd y panel i ffeindio fod hyn yn "ymddygiad a ddisgynnodd yn is na'r disgwyl" gan athrawes, a bod ymddygiad Alice Ashton yn gamymddwyn proffesiynol annerbyniol.
'Mynd i wyneb disgybl'
Dywedodd Mr Harrison hefyd fod yr holl ddisgyblion a gafodd eu cyfweld wedi cyfeirio at regfeydd penodol yn cael eu defnyddio gan Ms Ashton.
Ychwanegodd Mr Harrison fod Alice Ashton, wrth gael ei chyfweld am regi yn ystod yr ymchwiliad gan Lorna Simpson, wedi gwadu hynny.
Ond dywedodd Mr Harrison nad oedd gan Ms Ashton unrhyw atebion i gwestiynau am "fynd i wyneb disgybl" a mynd yn flin.
Doedd Alice Ashton ddim yn y gwrandawiad, ond clywodd y panel am e-bost anfonodd hi ynglŷn â'r drosedd yfed a gyrru.
Ynddo, roedd hi'n dweud iddi gwblhau'r 200 awr o waith cymunedol ac nad oedd hi'n gweithio o fewn addysgu, na chwaith yn gweithio yng Nghymru.
Ar ddiwedd y gwrandawiad, dywedodd cadeirydd panel y Cyngor Addysg, Steve Powell, y byddai ef a'r ddau aelod arall yn ystyried eu dyfarniad am weddill y prynhawn ac yn gobeithio bod mewn sefyllfa i'w gyhoeddi fore Mercher.