Nid gwobr i fi, ond i'r ffermwyr rannodd eu straeon - Alun Elidyr

Alun Edwards (chwith) yn derbyn ffon fugail oddi wrth Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman yn y Sioe FrenhinolFfynhonnell y llun, Undeb Amaethwyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwobr Goffa Bob Davies ei gyflwyno i Alun Elidyr yn ystod y Sioe Frenhinol eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor, cyflwynydd teledu ac amaethwr Alun Elidyr yn dweud bod derbyn Gwobr Goffa Bob Davies "yn un o uchafbwyntiau fy mywyd".

Mae'r wobr - er cof am ohebydd Farmers' Weekly Cymru, Bob Davies - yn cael ei rhoi gan Undeb Amaethwyr Cymru i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Dywedodd Alun ar raglen Dros Frecwast fore Gwener ei fod wedi derbyn y wobr am ei fod "wedi cael y fraint o agor y drws ar straeon pobl wledig Cymru a thu hwnt".

Yn ôl Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, "mae Alun wedi dod â llwyddiannau a thrafferthion amaethyddiaeth a bywyd gwledig Cymru i ystafelloedd byw ym mhob cornel o Gymru".

Mae Alun yn cyflwyno cyfres Ffermio ar S4C ers 2005.

Ers hynny mae wedi ymddangos mewn cannoedd o benodau, gan roi sylw i bob math o newidiadau a heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig Cymru; o TB mewn gwartheg i Brexit, diogelwch fferm, heriau iechyd meddwl tra hefyd yn ymweld ag amrywiaeth o sioeau a digwyddiadau amaethyddol.

Yn ogystal â Ffermio, dros y ddegawd ddiwethaf mae hefyd wedi bod yn cyfrannu at ddarllediadau S4C o'r Sioe Frenhinol fel sylwebydd.

'Nhw sy'n gwneud i fi edrych yn dda'

Cafodd Gwobr Goffa Bob Davies ei chyflwyno iddo yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

"Mae hwn yn un o uchafbwyntiau fy mywyd i, does dim dwywaith am hynny - ma' 'na ryw elfen greulon yn y peth, achos mae'n atgoffa fi bo' fi wedi bod yn cyflwyno Ffermio ers rhyw 20 mlynedd erbyn hyn," meddai wrth ymateb i'r gydnabyddiaeth.

"Mae'n rhaid i fi bwysleisio, dwi'n gwybod fy mod i wedi ei chael hi (y wobr) am fy mod i'n gyflwynydd Ffermio gymaint ag unrhyw beth, a be' sy'n bwysig yn fanna ydi nid fi, ond y ffaith mod i'n cael y fraint o agor y drws ar straeon pobl wledig Cymru a thu hwnt.

"Nhw mewn gwirionedd sy'n gwneud i fi edrych yn dda, felly dwi'n diolch o galon iddyn nhw am fod mor hael efo'u hamser, eu profiadau ac weithiau straeon dirdynnol maen nhw'n rhannu 'efo ni fel cynulleidfa Gymreig."

Ychwanegodd ei fod am ddiolch i S4C am "y weledigaeth i gynnal rhaglen Ffermio" gan ei fod yn bwysig er mwyn "cynnal y gynulleidfa graidd, a meithrin y gwylwyr nesaf".

Alun Elidyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm deuluol Alun Elidyr ym mhentref Rhydymain ger Dolgellau

Mae Alun wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o nifer o bynciau sy'n bwysig i amaethwyr dros y blynyddoedd, gydag iechyd meddwl a diogelwch fferm yn benodol yn agos at ei galon.

Dywedodd fod cael ffermwyr i rannu eu straeon a'u profiadau yn hanfodol.

"Dyna ydi'r her yn gyson... os clywch chi rywbeth gan ffermwyr, maen nhw'n dweud 'dydi pobl ddim yn ein deall ni, dydyn nhw ddim yn gwybod be' 'da ni'n 'neud," meddai.

"Felly gadewch i ni ddefnyddio llawer iawn mwy o egni i ddweud ein straeon a dweud ein straeon yn gadarnhaol.

"Dwi'n gweld llawer iawn o ymwelwyr bob blwyddyn... a dwi'n dweud wrthyn nhw eu bod nhw'n cyfrannu at fy mywoliaeth i achos eu bod nhw'n drethdalwyr am fod ffermio wedi derbyn cymorthdaliadau - 'mae'r wal yna wedi ei chodi gyda 70% o'ch cefnogaeth chi, mae'r gwrych yna wedi ei blannu, mae'r coed yna wedi tyfu, mae'r tir yma yn edrych fel mae o rywfaint o'ch herwydd chi'.

"Dwi'n cymryd bob cyfle i siarad gyda phobl sy'n wahanol i ni, a dweud ein stori. Mae hynny yn hollbwysig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig