Nigel Owens wedi gwireddu breuddwyd yn y Sioe Fawr

Nigel Owens
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i'r cyn-ddyfarnwr rygbi arddangos ym mhrif gylch y Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd

Wedi arfer dyfarnu ar gae rygbi o flaen miloedd o gefnogwyr, roedd Nigel Owens yn wynebu sialens go wahanol yn y Sioe Fawr ddydd Llun.

Roedd y cyn-ddyfarnwr yn arddangos un o'i wartheg Henffordd yn y prif gylch am y tro cyntaf, ac yn falch o ddod yn bedwerydd.

Dechreuodd Owens gadw'r gwartheg yn 2019 wrth iddo baratoi i ymddeol o ddyfarnu rhyngwladol.

Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw, fe ddywedodd ei bod yn "bwysig i ni cefnogi [Y Sioe Fawr] achosi i mi mae hi'r show orau'r wlad, a'r sioe fwyaf yn Ewrop".

Buwch Nigel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mairwen 1 Maggie Moultan wedi cystadlu o'r blaen, ond dyma oedd tro cyntaf Nigel Owens yn y cylch

Dywedodd Owens bod ganddo atgofion melys o ymweld â'r sioe pan oedd yn blentyn, ac roedd sefydlu buches ei hun yn uchelgais hir oes iddo.

"O'n i moyn rwbeth o'n i'n mynd i fod yn passionate amdano ar ôl gorffen y dyfarnu.

"Ac ers yn wyth blwydd oed yr atgof cynta am beth fi moyn bod pan o'n i'n tyfu lan o'dd ffarmwr.

"O'n i ddim yn fab ffarm felly o'dd dim ffarm gyda fi i fynd mewn i, a'r unig ffordd wedyn bydden i'n gallu cael ffarm fydde priodi merch ffarm, a o'dd 'na ddim yn mynd i ddigwydd!

"Felly o'dd rhaid i fi safio lan ers blynydde ac mae 'di cymryd 50 o flynydde felly fi 'di cael y freuddwyd o'r diwedd."

Nigel OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nigel Owens ymddeol o ddyfarnu rhyngwladol yn 2020

Er bod ei fuwch, Mairwen 1 Maggie Moultan wedi cystadlu o'r blaen, dywedodd Owens bod ei brofiad cyntaf ym mhrif gylch y Sioe Fawr wedi ei wneud yn fwy nerfus na chamu ar gae rygbi.

"O'n i byth yn mynd yn nerfus yn dyfarnu oni bai bo fi'n neud rhywbeth am y tro cynta', so pan o'n i'n dyfarnu gêm fyw ar y teledu am y tro cynta o'n i bach yn nerfus, ond ar ôl neud unwaith o'n i'n iawn.

"Dim ond gobeithio o'n i'n neud yn dda o'n i moyn.

"Felly o'n i bach yn nerfus ond excitement fwy na becso gormod."

Ac fe wnaeth Nigel a Mairwen berfformio'n gryf mewn categori cystadleuol, gan dderbyn y roset am ddod yn y pedwerydd safle.

"Yn anffodus oedd safon uchel yma eleni, wrth gwrs o'dd lot o dda o Loegr a'r Alban ddim yma achos y busnes blue tongue, ond pedwaredd daeth hi so digon hapus, daeth hi ddim ddwetha' a ni'n ddigon ples."

Glanhau'r fuwch cyn cystadlu

Felly, allwn ni ddisgwyl i weld fwy o Owens mewn cystadlaethau tebyg?

"Byddai bendant yn dod 'nôl i arddangos flwyddyn nesaf er mwyn cefnogi'r sioe", meddai.

"Dwi'n mwynhau gwneud e, ond dwi ddim yn credu gai'r bug fel mae rhai yn gwneud.

"Fyddai yn gwneud cwpl o sioeau ond dwi ddim yn credu bydd e y be all and end all."

Bydd Owens yn dychwelyd i'r maes unwaith eto ddydd Mercher wrth iddo feirniadu cystadleuaeth arddangoswyr ifanc y defaid.

Pynciau cysylltiedig