Yr ifanc a ŵyr: Gwyneth Glyn a Grey Evans
- Cyhoeddwyd
Mae Gwyneth Glyn yn adnabyddus fel cantores, cerddor, bardd ac awdur, a'i thad Grey Evans oedd un o actorion blaenllaw y llwyfan ac S4C yn yr 80au a'r 90au yn ymddangos mewn cyfresi fel Minafon, Porc Peis Bach a ffilmiau fel Hedd Wyn ac Un Nos Ola Leuad.
Yma, maent yn sôn am ddylanwad y naill ar y llall.
Gwyneth am ei thad
Dwi'n teimlo'n ofnadwy o lwcus bo' gin i dad mor annwyl a chariadus a chefnogol a gwybodus a chŵl. Mi fydda fy ffrindiau i'n d'eud, "Ew! Mae dy dad ti'n cŵl." A dydi rywun, ella, ddim yn meddwl am ei rieni fel cŵl.
Mae 'na ryw dawelwch a llonyddwch amdano fo, a dwi'n meddwl bo' fi 'di etifeddu hynny – a'r ddeuoliaeth yna rhwng bod felly, ac eto yn mwynhau pefformio.
Ma'r ddau ohonon ni'n Sagittarians, y ddau 'na ni'n ca'l ein penblwyddi mis Rhagfyr, ac ella bo' ni, fel ma' nhw'n cyffredinoli y Sagittarians, ein bo' ni'n licio teithio ac athronyddu ac yn y blaen.
Pan gesh i 'ngeni ar y pedwerydd ar ddeg o Ragfyr, 1979, mi oedd Dad yn ei chanol hi efo'r pantomain yn Theatr Gwynedd. A wedyn mi ddaeth yr alwad bod y babi wedi cyrradd yn Ysbyty Dewi Sant, a Dad yn brysio am yr ysbyty, wedyn ar ôl cael fy nghyfarfod i a gweld Mam cyn mynd yn ôl i Theatr Gwynedd.
Roedd Siân Wheldon yr actores hefyd yn y panto, a hitha'n cael ei phen-blwydd ar yr un diwrnod, a Siân wedi edrych ymlaen i gael lot o ffýs a sylw ar ei phen-blwydd. Ond wrth gwrs, oedd y sylw i gyd ar 'y nhad, oedd wedi cael babi bach. Hogan fach yn upstageio Siân!
A bob tro fydda' i'n gweld Siân, mi fydd hi'n deud, "wnes di'n upstageio fi yn 'chydig oriau oed" – yn tynnu coes. Felly roedd theatr yn rhan o'n magwraeth i o'r cychwyn cyntaf.
Er fy mod i wedi cael magwraeth syml a gwledig, dwi'n cofio profiadau difyr iawn, pan fyddai 'na bartis ac actorion yn galw. Fyddai 'na wastad rhyw gema' fel odl codl, a charades. Fyddwn i a fy chwiorydd hŷn yn paratoi sketches i ddiddanu'n hunain a phobl eraill hefyd.
Fydda Dad yn darllen straeon Mabinogi a chwedlau rhyfeddol gwlad Groeg i mi, a dro arall mi fyddai o'n cyfieithu rhai Saesneg i mi ar y pryd. Dwi'n cofio straeon Enid Blyton, pethau fatha The Faraway Tree. Mi fydda' fo'n eu cyfieithu nhw i Y Goeden Bellennig.
Dwi'n cofio gwylltio hefo fo un tro, dwi'm yn cofio pam, falla bo' fi'm yn cael fy ffor' fy hun! A do'n i ddim yn gwbod sut i regi ar y pryd achos bach o'n i, ond dyma fi'n deud, yn sbio ac yn rhythu arno fo'n flin a dweud "Dy hun bach!!"
Mae'n siŵr bod hynny wedi cael ei ddefnyddio yn fygythiad rhyw dro: "Cer trwadd i'r stafall i eistedd dy hun bach!" a'i fod o wedi sticio.
Felly dwi'n meddwl bod yna greadigrwydd o gwmpas yn naturiol o'r dechrau un.
Dw i'n lwcus fod o wedi rhoi y rhyddid yna i mi, a'r hyder i fedru trio fy llaw ar rywbeth gan wbod ella byswn i'n methu, a thrio eto. Hynny ydi, doedd yna 'rioed bwysau i lwyddo neu ddilyn unrhyw lwybyr.
Dw i'n meddwl bod y rhyddid yna'n beth amhrisiadwy i unrhyw artist.
Grey am Gwyneth
Ddes i ar draws yn ddiweddar dyfyniad gan Einstein yn deud sut i fagu plentyn clyfar – stori bob nos cyn y gwely. Roedd hi'n cael straeon yn hogan fach, ond dwn i'm faint oedd hynny wedi ychwanegu at ei chreadigrwydd.
O'n i'n ffwr' yn gweithio yn reit aml. O'n i'n 'neud lot o waith i'r llwyfan ac oedd hynny'n golygu, pan o'n i yn y De fy mod i ffwr' am wythnos. Pan oeddwn i heb waith adra yn ei magu hi o'n i, tan fydda yna gyfnod o waith yn codi'i ben.
Roedd ei nain yn dal i weithio yn y siop yng Nghricieth adeg honno, wedyn dyna lle bydda Gwyneth yn ei choetsh yn y siop yn gweld y byd yn mynd heibio, a phobl yn dod i mewn a siarad.
Yn fuan iawn roedd hi yn Ysgol Glanaethwy. Roedd o'n brofiad arbennig iawn iddi. Dwi'n cofio y siwrneau yna yn ôl ac ymlaen i Fangor oedd yn dipyn o ffordd – oedd o bron i awr o leia unwaith yr wythnos. O'n i'n hoff iawn bryd hynny o chwarae Plethyn iddi yn y car.
Mor fregus ydi gyrfa actor, yn enwedig i ferched, ac mae rhywun yn gwbod mai lwc ydy o – bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.
Fyswn i byth wedi'i gwthio hi i fynd i actio, ond oedd hi'n canu. Falla dyna pam mae hi'n fwy o gantores nag actores. Er mae hi 'di cael digon o brofiad actio cyn mynd i'r coleg, ac ar ôl coleg.
Fe weithion ni ar Pengelli ar yr un pryd. Roedd o'n braf ei gwylio hi o bell, ond doedd hi ddim ar dân isio actio.
Dwi 'di sylweddoli bod yna ryw debygrwydd rhwng Gwyneth a fi – 'dan ni'n tueddu i fod yn fwy mewnblyg nag allblyg. Gall hynny wneud lot o bobl yn swil, ond os ydw i'n cael mynd mewn i esgidiau rhywun arall dwi'n ddigon parod i wneud ffŵl o fy hun a gwneud pob math o bethau, a dwi'n meddwl bod yr un peth yn wir amdani hi.
Mae hi wedi gwneud rhyw gymeriadau yn coleg a ballu, petha go ymfflamychol ac eithafol! Mae rhywun yn medru bod yn hapusach yn gwneud hynny o wybod mai rhywun arall ydy o. Dwi yn fa'ma, cradur arall ydy hwnna.
Dwi 'di mwynhau cerddoriaeth o'r cychwyn cynta, ers o'n i'n blentyn bach. Roedd fy nhad yn bianydd arbennig. Dwi'm yn gwybod sut oedd o wedi cael yr amser i ddysgu.
Do'n i byth yn mynd i fod yn rock star, er mod i wedi gweithio efo pobl fel Dafydd Iwan, Meic Stevens a Dewi Pws, ond adra efo Gwyneth mi oedd y gitâr wastad o gwmpas ac roedd hi'n gartrefol iawn efo fo a'n bod ni'n gwneud caneuon.
Yn achos Gwyneth, o'n i'n meddwl ei bod hi wedi cyfansoddi Angeline. Achos mae llawer iawn o bethau Gwyneth yn fwy myfyriol, tawel, laid-back ond oedd Angeline yn eich gwyneb chi – y sylwadau cymdeithasol, nes i fwynhau honno go iawn, ynde.
Rhywbeth nes i ddysgu iddi hi yn weddol ifanc yn ei gyrfa oedd i fod yn ffeind efo pawb pan ti ar y ffordd i fyny achos ti ddim yn gwybod pwy wnei di gyfarfod ar y ffordd i lawr.
Doedd hynny ddim yn beth anodd i Gwyneth o gwbl.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021