Stordy yn ne Cymru i werthu gwisgoedd sêr opera a bale
- Cyhoeddwyd
Bydd yna gyfle prin fis nesaf i fod yn berchen ar wisgoedd sydd wedi cael eu gwisgo gan gantorion opera a dawnswyr bale ar lwyfannau ar draws y byd.
Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae'r Cwmni Bale ac Opera Brenhinol yn cynnal arwerthiant gwisgoedd yn eu stordy yn Rhondda Cynon Taf.
Mae bob tocyn wedi ei fachu ar gyfer y digwyddiad yn Aberdâr fis Chwefror, sy'n codi arian ar gyfer Sefydliad Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden.
Gan mai yng Nghymru y mae'r achlysur, fe recordiodd y cantorion Syr Bryn Terfel ac Aled Hall fideo, sy'n cynnwys y Gymraeg, er mwyn ei hyrwyddo.
'Gathon ni sbri yn 'neud e!'
Yn y fideo sy'n hyrwyddo'r arwerthiant, dywed y canwr bas bariton byd-enwog Bryn Terfel: "Ewch i Aberdâr ac ella gewch chi brynu dillad fel hyn sydd wedi cael eu gwisgo gan gantorion mwya'r byd."
Eglurodd y tenor Aled Hall ar raglen Dros Frecwast y cafodd ei recordio pan roedd y ddau yn perfformio yn yr opera Tosca yn Llundain cyn y Nadolig.
"Achos y cyswllt Cymraeg, nathon nhw ofyn i ni a jwmpon ni ar y chance yn syth," dywedodd.
Fe gafodd ei recordio'n sydyn yn yr egwyl rhwng Act II ac Act III pan oeddan nhw "newydd ddod off y llwyfan. Nathon ni e - one-take wonders! Gathon ni sbri yn 'neud e."
Eglurodd bod crys ei gyd-Gymro yn waedlyd oherwydd mae ei gymeriad yn cael ei ladd ar ddiwedd yr act.
"Gynted â orffenes i... o'dd raid i fi redeg ar y llwyfan i 'neud Act III, pan o'dd e'n ca'l rhoid ei draed lan!"
Dros 10,000 o eitemau
Fe gafodd y stordy ei godi ar ystâd ddiwydiannolyn Aberdâr yn 1995 ar gyfer cadw setiau a gwisgoedd cynyrchiadau bale ac opera'r cwmni brenhinol.
Fe lenwodd yn sydyn a bu'n rhaid estyn ei faint 50%. Erbyn hyn mae digon o le yno i storio popeth ar gyfer tua 150 o gynyrchiadau bale ac opera.
Mae setiau yn cael eu codi yno, a'u cludo i ganolfannau ar draws y byd.
"Does dim llawer o bobl yn gw'bod bod yr uned yna," dywedodd uwch dechnegydd logisteg gwisgoedd y stordy yn Aberdâr, Bethan Bentley, wrth Dros Frecwast.
"Mae'n enfawr - mae fel aircraft hangar mawr."
Mae'r arwerthiant yn cynnwys dros 10,000 o ddarnau gan gynnwys eitemau o gynyrchiadau fel Macbeth, Carmen, Così Fan Tutte a La bohème.
"Dyma'r gwerthiant cyntaf yng Nghymru," dywedodd Bethan Bentley.
"Mae gennon ni filoedd o wisgoedd ar werth - mae tua 250 o reiliau ar gael.
"Mae gennon ni amrywiaeth o bethe - o ddillad modern, gwisgoedd cyfnod, gwisgoedd ffansi... hetia', ategolion, sgidie bach, gwisgoedd milwrol, ymhlith llawer o bethe er'ill."
Dywedodd mai'r rheswm dros werthu "rhan o'n hanes annwyl" yw bod y cwmni'n gynyddol brysur a'i amserlen hefyd yn ehangu.
"Ni all y gwisgoedd i gyd aros yn yr uned. Maen nhw jyst yn cadw llwch ac mae'n well gen i weld nhw yn nwylo pobl sy'n caru'r sioeau 'ma."
Mae'r arwerthiant hefyd yn cyd-fynd ag awydd o fewn y sector theatr i ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau a "lleihau ein gwastraff".
"Mae'r dillad yn ca'l eu gwneud ar dy gyfer di... mae shwd gyment o waith yn mynd i mewn i ga'l yr edrychiad iawn," dywedodd Aled Hall.
"Ni'n gweithio i un o'r tai opera gore yn y byd, a dim ond y gore sy'n cael ei ddarparu i ni."
Eglurodd mai gwisg cyfoes fydd ganddo yn ei gynhyrchiad nesaf yn y Tŷ Opera - y perfformiad cyntaf yn y byd o opera newydd, Festen.
Ond fe fydd ei rôl nesaf ar ôl hynny yn yr opera Tourandot, "sydd wedi rhedeg am 40 mlynedd, ac "mae'n rhaid i ni ddefnyddio rywfaint o'r un costumes naethon nhw o'r dechre".
Mae'r arwerthiant, meddai, yn gyfle i bobl brynu "rhan o hanes".
"Falle byddech chi'n lwcus - bob tro y'n ni'n 'neud opera mae enwe ni tu fewn [i'r dillad] ar y labele fel bo ni ddim yn cymysgu lan!
"Fyddwch chi'n prynu, falle, côt fydda' i wedi'i wisgo, neu Bryn, mewn rhyw gynhyrchiad felly fydd enw Bryn Terfel tu fewn ar y label!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020