'1876 yma i aros' wrth ailenwi CPD Dinas Bangor

Yn 1876 y cafodd clwb pêl-droed ei sefydlu yn wreiddiol ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed o Wynedd a gafodd ei sefydlu yn sgil tranc Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi pleidleisio o blaid newid ei enw.
Mae CPD Bangor 1876, sydd bellach yn chwarae yn yr ail haen, wedi cadarnhau fod cefnogwyr wedi pleidleisio o blaid newid enw'r clwb i CPD Dinas Bangor 1876.
Sefydlwyd Bangor 1876 yn 2019 gan gefnogwyr clwb Dinas Bangor a oedd yn bryderus am sut oedd y clwb yn cael ei redeg, gan gynnwys colli eu lle yn y Cymru Premier oherwydd pryderon ariannol.
Yn ddiweddarach fe dynnodd CPD Dinas Bangor, a oedd yn bencampwyr Cymru ar dair achlysur, allan o gynghrair y JD North yn 2022 oherwydd dyledion o £53,000.

Mae cefnogwyr y clwb wedi pleidleisio o blaid newid yr enw
"Mae angen cynllunio ar gyfer y dyfodol, a rhan o hyn oedd ceisio barn yr aelodau ynglŷn ag enw'r clwb." meddai Cadeirydd Bangor 1876, Glynne Roberts, mewn neges Nadolig i gefnogwyr.
"Trwy fwyafrif o 2-i-1, roedd cymeradwyaeth i newid yr enw i gynnwys 'Dinas' – felly rydym yn cwblhau'r cylch i ddod yn CPD Dinas Bangor 1876.
"Ond yr un peth sydd angen i ni gofio yw bod yr 1876 yma i aros – dyma ein brand, ein hunaniaeth, a'n balchder mewn creu clwb mor wych."
Yn ôl y clwb roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi awgrymu y byddai'n cefnogi'r newid pe bai cefnogwyr o blaid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023