Menyw fu farw 'gydag anafiadau i'w gwddf' - cwest

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Victoria Thomas ei disgrifio fel "mam a chyfaill annwyl"

  • Cyhoeddwyd

Roedd menyw a gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yng Nghaerdydd wedi dioddef anafiadau i'w gwddf, mae agoriad cwest wedi clywed.

Cafodd Victoria Thomas, 45, ei darganfod yn farw mewn tŷ ar Heol Caerffili yn oriau mân y bore ar 20 Awst.

Mae Alcwyn Thomas, 44, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fis diwethaf wedi’i gyhuddo o lofruddio Ms Thomas.

Dywedodd swyddog y crwner wrth y gwrandawiad cyn-gwest ym Mhontypridd ddydd Mawrth fod swyddogion wedi derbyn adroddiad tua 00:30 y bore fod rhywun wedi ymosod ar fenyw.

Fe wnaeth parafeddygon drin Ms Thomas, ac roedd yn ymddangos bod ganddi "anafiadau i'w gwddf".

'Marwolaeth annaturiol'

Yn y cyfamser, daeth yr heddlu o hyd i bartner Ms Thomas i fyny'r grisiau yn y tŷ.

Cofnodwyd achos marwolaeth dros dro fel "pwysau i'w gwddf", yn dilyn archwiliad post-mortem ar 21 Awst.

Cafodd Ms Thomas ei disgrifio gan ei theulu fel "merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind annwyl iawn".

Gan ohirio'r cwest llawn, dywedodd y crwner cynorthwyol Rachel Knight: "Yn seiliedig ar y dystiolaeth rwy'n fodlon agor cwest, gan fod gen i reswm i amau bod ei marwolaeth yn annaturiol".

Bydd dyddiad y cwest llawn yn cael ei osod ar ôl "ymchwiliad troseddol pellach".

Pynciau cysylltiedig