Difa ci wedi cyfres o ymosodiadau ym Môn

ci tarwFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Nid hwn oedd y ci ond mae'r llys wedi gorchymyn difa ci tebyg i un tarw Americanaidd wedi'r ymosodiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi gorchymyn i gi tebyg i un tarw Americanaidd gael ei ddifa ac wedi rhoi dedfryd o wyth mis o garchar wedi'i ohirio i'w berchennog ar ôl cyfres o ymosodiadau ar Ynys Môn.

Cafodd y ci o'r enw Loki ei ddisgrifio fel ci ifanc "annwyl" gan y perchennog Jamie Wilson.

Ond clywodd Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno, sut y gwnaeth y ci frathu tri o bobl mewn tri ymosodiad gwahanol dros gyfnod o saith mis yn 2023.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei bod yn amlwg bod Wilson, 35 oed, wedi methu â hyfforddi’r ci, ac nad oedd ganddo ddewis ond gorchymyn difa'r anifail.

Clywodd y llys fod Wilson yn adnabod pob un o’r dioddefwyr ac yr oedd dau o’r ymosodiadau wedi digwydd yn ei gartref yng Nghaergybi.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu am y digwyddiadau, derbyniodd Wilson mai ef oedd y perchennog ac mai ei gi ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.

Plediodd yn euog ym mis Awst yn Llys Ynadon Llandudno i dri chyhuddiad o fod yn berchen ar gi peryglus allan o reolaeth oedd wedi achosi anafiadau.

'Ddim wedi hyfforddi'r ci yn iawn'

Wrth amddiffyn Wilson, dywedodd Rosemary Proctor fod y diffynnydd yn “wirioneddol edifar” am yr hyn a ddigwyddodd, a’i fod wedi ymddiheuro’n bersonol i’r holl ddioddefwyr.

"Doedd e ddim yn bwriadu achosi unrhyw niwed i un o'r dioddefwyr," meddai.

Fodd bynnag, wrth ddedfrydu Wilson, dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei bod yn ymddangos nad oedd Wilson yn deall pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

"Dydych chi ddim wedi hyfforddi'r ci yn iawn a dydy e ddim yn gwybod sut i ymddwyn," meddai'r Barnwr Petts.

Dywedodd fod yr ymosodiadau cyson yn golygu nad oedd dewis arall ond gorchymyn difa'r ci.

Yn ogystal â dedfryd o garchar gohiriedig o wyth mis cafodd Wilson ei orchymyn i wneud 150 awr o waith di-dâl a bydd yn gorfod ufuddhau i amodau cyrffyw am 90 diwrnod.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag bod yn berchen ar gi am y pum mlynedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig