Arestio dyn ar ôl taflu disel ar staff siop a dwyn £500

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â lladrad arfog mewn archfarchnad ble cafodd disel ei daflu dros staff.
Digwyddodd y lladrad yn siop Lidl yn Nowlais, Merthyr Tudful.
Cafodd y dyn 54 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata fore Llun, ac mae yn y ddalfa.
Am tua 17:15 ar 16 Rhagfyr, aeth dyn i mewn i'r siop gyda chynhwysydd tanwydd a'i dywallt dros aelod o staff.
Aeth ymlaen i fynnu arian o'r til, a chymryd tua £500.
Cafodd staff eraill ac aelodau o'r cyhoedd eu bygwth, ac fe gafodd disel ei daflu atynt.
Dywedodd yr heddlu bod sawl eitem wedi eu cymryd ar gyfer archwiliadau fforensig.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Tony Watts: "Roedd hyn yn ddigwyddiad hynod o frawychus i staff a siopwyr yn y siop Lidl."
Ychwanegodd y bydd yr ymchwiliad yn parhau a bod Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu.