Pryder am ddiwedd cynllun teithio am ddim i ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Mae ‘na feirniadaeth o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared â chynllun oedd yn caniatáu i ffoaduriaid deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Cafodd cynllun Tocyn Croeso ei gyflwyno ym mis Mawrth 2022, ac roedd yn cael ei ystyried yn adnodd defnyddiol i’r rhai sydd wedi ffoi o lefydd fel Wcráin, Afghanistan a Hong Kong.
Ond gyda’r cynllun yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth mae Plaid Cymru yn dweud bydd y rheiny sydd wedi ffoi i Gymru yn ei chael hi’n anodd teithio.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ystyried cyflwyno cynllun newydd.
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
Fe wnaeth Marius Ambara Kamna, 32, ffoi o Sierra Leone i Gymru oherwydd ei rywioldeb.
Mae’r Tocyn Croeso y mae e’n ei ddefnyddio i gael mynediad am ddim i drafnidiaeth gyhoeddus, wedi bod o gymorth mawr.
“Dwi’n defnyddio’r tocyn i fynd i’r ysgol, i weld ffrindiau, weithiau i ymweld â phobl o gwmpas Cymru," meddai.
“Mae’n ddefnyddiol i bawb. Pan chi moyn symud o gwmpas mae’n rhad ac am ddim. Gallwch chi neidio ar y bws am ddim.”
Ond gyda’r cynllun yn dod i ben ddydd Sul, mae’n poeni am yr effaith y bydd colli’r tocyn yn ei gael ar ei allu i deithio.
“Yn sicr mae angen cynllun neu docyn fel yr un yma oherwydd mae’n ddefnyddiol. Mae’n beth da i ni," meddai Marius.
“Mae cael gwared ar y cynllun yn siomedig. Mae nifer o bobl methu fforddio tocynnau i symud o gwmpas.
“Yma yng Nghaerdydd mae’r gallu i symud o gwmpas yn bwysig, felly mae angen rhywbeth fel hyn am ddim i ni.”
Mae Kirran Lochhead Strang yn gweithio i elusen Oasis yng Nghaerdydd, sy’n darparu cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae e’n credu bydd cael gwared â'r cynllun yn cael effaith negyddol ar y rheiny sy’n ceisio dod yn rhan o’r gymdeithas yng Nghymru.
“Dwi’n credu ei fod e’n siom fod y Tocyn Croeso yn cael ei dynnu," meddai.
"Mae e’n help mawr i bobl sy’n trio integreiddio yng Nghymru, ac wrth gwrs mae Cymru wedi cyhoeddi ei hun fel Cenedl Noddfa gyntaf y byd, sy’n beth da i ddangos.
“Mae pobl sydd yn cyrraedd Cymru fel arfer yn cyrraedd heb fawr ddim.
"Mae’r tocyn yn ffordd dda o gael mynediad at wasanaethau, edrych am waith, neu fynd o gwmpas eu bywyd o ddydd i ddydd.
“Mae’r prosiect wedi bod yn un da iawn, a ni’n gobeithio bydd rhywbeth newydd yn cael ei gyflwyno yn ei le.”
'Y bwlch yn mynd i fod yn ergyd'
Yn y ddwy flynedd ers cyflwyno’r cynllun mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod dros filiwn o deithiau wedi eu cymryd gan ddefnyddio’r Tocyn Croeso.
Roedd yn cael ei ariannu trwy gynlluniau oedd yn cefnogi gwasanaethau bysus a rheilffyrdd ar ôl y pandemig.
Ond wrth i’r cynlluniau hynny ddod i ben, mae’n ddiwedd taith hefyd i’r Tocyn Croeso.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn edrych ar gyflwyno cynllun gwell yn y dyfodol.
Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams, yn credu bydd y bwlch rhwng yr hen gynllun a’r un newydd yn achosi trafferthion.
“Mae’n mynd i fod yn ergyd fawr. Y bwlch ‘na sydd yn mynd i fod yn ergyd," meddai.
“Dwi’n credu bod hi’n bwysig bod popeth ry’n ni’n dweud ry’n ni eisiau bod fel cenedl, bod ‘na weithredu tu ôl iddyn nhw - bod nhw ddim just yn eiriau cynnes.
"Ni’n sôn fan hyn am grŵp bregus iawn o bobl - pobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel, rhag newyn, rhag erledigaeth.
“Mae hwn yn rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud - mae modd iddyn nhw 'neud hyn.
"Dy’n nhw methu gwneud popeth achos bod yr holl rymoedd heb eu datganoli, ond ma' nhw yn medru gwneud hyn.
"Mae’n siomedig iawn bod nhw wedi tynnu hwn nôl heb fod ‘na gynllun arall yn ei le yn syth.”
'Sefydlu cam nesa’r cynllun'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “falch o gyflwyno mynediad am ddim y drafnidiaeth gyhoeddus trwy’r Tocyn Croeso i helpu'r rheiny sy’n ceisio ffoi i integreiddio yng Nghymru".
“Trwy ddysgu o’r cynllun ry’n ni’n bwriadu sefydlu cam nesa’r cynllun, fydd yn gynaliadwy ac yn addas, gan sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio’n adnoddau ar y rheiny sydd â'r angen mwyaf.
“Byddwn yn gweithio’n agos gyda darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth, awdurdodau lleol a’r trydydd sector a’r rhai sy’n edrych am loches i ddatblygu cam nesa’r cynllun.”
Mae disgwyl diweddariad yn yr haf.