Ffermwr wedi marw ar ôl i seilo o fwyd anifeiliaid ddisgyn arno
- Cyhoeddwyd
Bu farw ffermwr o Bowys ar ôl i seilo oedd yn storio bwyd anifeiliaid ddisgyn arno ef a'i fab, clywodd cwest.
Cafodd Iwan Llwyd Wynne Evans, 78, ei anafu'n ddifrifol wedi i'r seilo ddymchwel ar fferm y teulu yn Aberhosan ger Machynlleth ym mis Chwefror 2023.
Roedd 4.4 tunnell o fwyd anifeiliaid wedi'i lwytho i'r seilo, ond yn anfwriadol, roedd wedi cael ei orlenwi.
Er gwaethaf ymdrechion i adfywio Mr Evans ar fferm Cleiriau Isaf yn Nyffryn Dulas, bu farw yn y fan a'r lle.
Dyfarnodd y crwner yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod y farwolaeth yn un ddamweiniol.
'Gweld y seilo'n symud'
Clywodd y cwest bod y seilo storio bwyd anifeiliaid wedi cael ei brynu ychydig wythnosau cyn y digwyddiad.
Dywedodd mab Iwan Evans, Dafydd - a gafodd hefyd ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad - ei fod ef a'i dad wedi adeiladu'r storiwr flatpack gyda'i gilydd, a'u bod yn credu eu bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau cywir.
Cafodd ei osod yn yr ysgubor yn barod i'w lenwi, ac fe ddigwyddodd hynny ar 17 Chwefror.
Dywedodd fod y cyfarwyddiadau yr oedden nhw'n eu dilyn ar gyfer cynhwysyddion a oedd yn dal 3.5 neu 4.5 tunnell o fwyd anifeiliaid, a'u bod wedi archebu 4.4 tunnell o fwyd ar y diwrnod y bu farw ei dad.
Mewn datganiad, dywedodd y gyrrwr a gludodd y bwyd ei fod wedi gweld y seilo yn symud wrth iddo orffen dadlwytho'r bwyd.
Fe waeddodd ar y ddau ffermwr i symud o'r ffordd, meddai, ond fe syrthiodd y seilo arnyn nhw.
"Fe gafodd Iwan ei daro'n uniongyrchol gan y seilo," meddai'r gyrrwr Robert Mason.
"Roeddwn i'n gallu gweld ei fod yn sownd."
Dywedodd fod Dafydd hefyd wedi'i orchuddio gan fwyd yr anifeiliaid ac fe aeth i'w helpu.
"Dywedodd Dafydd wrtha i am helpu ei dad. Dywedais wrtho fy mod yn meddwl ei fod wedi mynd," ychwanegodd.
'Caru'r fferm, y capel a chanu'
Clywodd y gwrandawiad bod y gwasanaethau brys wedi ceisio adfywio Iwan Evans, ond roedd ei anafiadau yn rhy ddifrifol.
Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi marw o "anafiadau trawmatig niferus".
Datgelodd ymchwiliad iechyd a diogelwch mai dim ond 3.5 tunnell o fwyd oedd i fod yn y seilo, a nodwyd bod y dunnell ychwanegol o fwyd a gafodd ei ychwanegu yn ormod o bwysau i'r seiliau concrid islaw.
"Yn fy marn i fe wnaeth y seilo ddymchwel wrth i ormod o fwyd gael ei roi ynddo," meddai'r arbenigwr Simon Lawerence.
Mewn datganiad gan y teulu cafodd Iwan Evans ei ddisgrifio fel dyn oedd yn caru'r fferm, y capel a cherddoriaeth - yn enwedig canu.
Gan gydymdeimlo â'i deulu cofnododd uwch grwner Gogledd-Orllewin Cymru Kate Robertson gasgliad o farwolaeth drwy ddamwain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023