Cyhuddo gyrrwr o achosi marwolaeth dyn ar yr A470
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 51 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall mewn gwrthdrawiad ar yr A470.
Bu farw Lee Sullivan, 48 oed o Aberhonddu, yn y digwyddiad rhwng y dref a'r Storey Arms ar 22 Mawrth eleni.
Mae Craig Thomas - hefyd o Aberhonddu - wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, tra ar gyffuriau.
Clywodd Llys Ynadon Merthyr Tudful fod car Ford Focus wedi taro ymyl y ffordd a throi drosodd.
Bu farw Mr Sullivan, oedd yn deithiwr yn y car, yn y fan a’r lle.
Mae Mr Thomas hefyd wedi'i gyhuddo o yrru heb drwydded nac yswiriant.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 18 Hydref.