Dyffryn Clwyd: Newid ffiniau Seneddol ond eraill yn dal i oroesi
- Cyhoeddwyd
Wrth i Euro 2024 hawlio'r rhan fwyaf o'r sylw ar draws y cyfandir, yn Nyffryn Clwyd mae pêl-droed yr haf yn draddodiad sy'n deillio nôl ymhell cyn dyfodiad UEFA.
Wedi ei sefydlu yn 1926 mae Cynghrair Haf Llandyrnog a'r Cylch bron yn 100 oed, ac yn denu timau o gymunedau ar draws siroedd Conwy a Dinbych.
Erbyn hyn mae ffioedd trosglwyddo enfawr yn rhan annatod o'r gêm ar y lefel uchaf, ond mae'r gynghrair hon yn unigryw gan fod yn rhaid i'r chwaraewyr fyw oddi fewn dalgylch y gymuned y maent yn ei chynrychioli.
O ganlyniad mae'r ffiniau hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers bron i ganrif, sy'n wahanol iawn i etholaethau San Steffan.
Tan yr etholiad cyffredinol roedd yr ardal wedi ei rhannu yn bennaf rhwng etholaethau Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd.
Ond wrth i nifer y seddi yng Nghymru ostwng o 40 i 32, mae wedi cael effaith mawr yma wrth i'r ardal hollti rhwng etholaethau newydd Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd.
Mae meysydd siroedd Conwy a Dinbych wedi bod yn denu torfeydd sylweddol wrth i gefnogwyr ddod i floeddio dros eu timau pentref, gyda'r Gymraeg i'w chlywed yn amlwg ar ac oddi ar y cae.
Mae'r gynghrair yn dod i ben ddiwedd Mehefin ond ym mis Gorffennaf mae cystadleuaeth gwpan, sef y Darian, yn cael ei chynnal.
Dywedodd Ifan Rhys Batty, sy'n chwarae i Nantglyn: "Mae'n gyfle i gael pobl lleol, sydd ella ddim yn chwarae lot o bêl-droed, at ei gilydd am dri mis y flwyddyn.
"Dydy pawb ddim yn licio mynd allan yn y gwynt a'r glaw yn y gaeaf, felly mae'n braf."
"Ond mae hi'n andros o agos eleni, dwi 'rioed wedi gweld hi mor gystadleuol.
"Ddaru ni [Nantglyn] gael cychwyn da iawn, oeddan ni fyny yn y top tan hanner ffordd drwodd ond ddaru popeth ddechrau mynd ar bach o chwâl hanner ffordd drwodd.
"Mae tîm ni llawn ffermwyr ac oedd pawb yn mynd off i gneifio, ar holidays neu silage, aeth petha down hill wedyn ond 'da ni'n gobeithio am ddiwedd cryf i'r tymor."
Dywedodd rheolwr CPD Nantglyn, a oedd yn wynebu Llanrhaeadr yn y gynghrair, ei bod yn cynnig sylfaen i lawer o chwaraewyr ifanc ond bod yna hefyd elfen gymdeithasol.
"Mae'n ffantastic, mae 'na lot o chwaraewyr mor dda wedi dod allan o'r summer league a 'da ni'n cael lot o gefnogaeth hefyd," medd Thomas Wynne Lewis, sydd wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers dwy flynedd.
"Y peth pwysig ydi cael hwyl ond mae o eitha serious hefyd achos mae ganddoch chi local pride, mae'n blend da.
"Does neb yn siarad am yr etholiad rîli, mae pawb yn siarad am y summer league!
"Ond mae 'na lot o broblemau hefo cyflogau, mae cyflogau yng ngogledd Cymru mor isel os ti'n cymharu hefo'r rhan fwyaf o'r UK a jobs, does dim lot o jobs yn yr ardal yma.
"Mae'n anodd i bobl ifanc ar hyn o bryd."
'Mae'n bwysig i bawb bleidleisio'
Yn ôl Lia Evans o Bylchau, sy'n un o gefnogwyr selog Nantglyn, mae'r gynghrair yn gyfle i ddod â'r gymuned at ei gilydd.
"Mae cael gêm dwywaith yr wythnos yn dod â chriw at ei gilydd ac yn beth da i weld ffrindiau ar yr un adeg," meddai.
"Wnaethon ni gychwyn y tymor yn dda, di'm 'di bod yn wych ers hynny ond dydi o ddim am yr ennill rili ond y cymyd rhan sy'n bwysig medden nhw!
"Yn enwedig o gwmpas fama- mae amaethyddiaeth a chefn gwlad yn fawr iawn, hefo'r polisiau ffermio sy'n dod allan a'r holl brotestio.
"Wna'i bleidleisio, mae'n bwysig i bawb wneud achos ar ddiwedd y dydd."
Bellach mae cymuned Nantglyn yn rhan o etholaeth Bangor Aberconwy, gyda'r ddinas brifysgol yn daith o dros awr i ffwrdd yn y car.
Ar y newid ffiniau ychwanegodd Lia: "Dwi'm yn meddwl fod o'n beth da, ers stalwm oedd pobl yn nabod pwy 'da chi'n bleidleisio am. Da chi'n fwy tueddol i bleidleisio os 'da chi'n nabod y bobl."
Yn ôl Bryn Evans, Ysgrifennydd CPD Llanrhaeadr, mae'r gynghrair yn un "unigryw" ac yn golygu fod rhai yn chwarae pêl-droed drwy'r flwyddyn.
"'Da ni'n mynd nôl i'r dafarn leol ar ôl y gemau ar nos Lun a nos Iau, mae'n dod â pobl allan am dri mis y flwyddyn ac mae'n beth da i'r dafarn hefyd.
"Ddaru Covid hitio ni ond falle fod o'r peth gorau ddigwyddodd hefo clybiau yn gallu regroupio.... mae'n grêt."
O ran y pynciau etholiadol sy'n bwysig i bobl yr ardal, ychwanegodd: "Dwi'n meddwl na public services ynde, ysgolion, ysbytai, da chi'n clywed horror stories o bobl yn disgwyl wyth awr am ambiwlans mewn rhywle bach fel hyn, be mae o fel yn y trefi mawr?
"Dwi wedi byw yma drwy'n oes, 'da ni'n lwcus i fyw yma a di'r etholiad ddim yn poeni llawer arna'i."
'Gweld newid dros y blynyddoedd'
Dywedodd Ieuan Evans, un o gefnogwyr Llanrhaeadr, ei fod yn falch o weld y gynghrair yn ffynnu a fod y plwyfi yn "parhau i ddenu torfeydd da".
Ond tra'n gymuned wledig a Chymreig ei naws, dywedodd ei fod wedi gweld newid dros y blynyddoedd.
"Be sy'n fy mhoeni i ydi fod llawer iawn o Saeson yn symud i'r ardaloedd, 30 mlynedd yn ôl oeddwn yn nabod pawb yn y pentre' ma ond dwi'm yn nabod eu hanner nhw rwan ynde."
"Mae'r Gymraeg yn gryf a mae 'na ambell i deulu yn dysgu Cymraeg hefyd, sy'n codi calon rhywun.
"Dwi'm yn cydweld hefo newid y ffiniau [etholaethol], mi fasa rhywun yn licio cael rhywun lleol fel petae," ychwnaegodd.
Ymhen llai na wythnos bydd pleidleiswyr Dyffryn Clwyd yn dewis eu haelodau seneddol ar gyfer etholaethau newydd sbon a nhw fydd yn dewis a fydd newid.
Ond yn sicr y gobaith yn y rhan hon o'r byd yw mai ychydig iawn o newid fydd 'na i draddodiad Cynghrair yr Haf, wrth feithrin cenhedlaeth newydd i gynnal rhan flaenllaw yng nghymeriad y fro.