Llai o anafiadau ar ffyrdd 20 a 30mya Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ostyngiad o bron i draean yn nifer y bobl a gafodd anaf ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 20 a 30mya yng Nghymru yn ystod chwarter olaf 2023.
Yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru fe gafodd 463 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd hyn rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 681 yn yr un cyfnod yn 2022.
Dywed Llywodraeth Lafur Cymru bod hynny o ganlyniad i'r terfyn cyflymder 20mya a ddaeth i rym ar lawer o ffyrdd ym mis Medi y llynedd.
Mae'r llywodraeth wedi addo ers hynny i adolygu'r drefn newydd.
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod angen mwy o ystadegau, ac y byddai'r blaid yn troi'r ffyrdd 20mya newydd yn ôl i rai 30mya pe bydden nhw mewn grym.
Yn ôl Plaid Cymru, a gefnogodd y terfyn cyflymder is, mae'r ffigyrau yn "galonogol".
'Symud i'r cyfeiriad cywir'
Roedd yna ostyngiad bychan yng nghyfanswm y gwrthdrawiadau yng Nghymru y llynedd o'i gymharu â 2022, ond mae hynny'n duedd gyffredinol ers sawl degawd.
Ond roedd nifer y gwrthdrawiadau difrifol ar holl ffyrdd Cymru yn uwch yn 2023 nag yn 2022, a bu farw 98 o bobl o'u herwydd.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates, oni bai am gyfnod yn ystod y pandemig, dyma'r nifer isaf ar gofnod o anafiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder arafach.
"Mae'r data sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi lleihau ers cyflwyno [y ddeddf] 20mya," meddai.
"Mae cryn ffordd eto i fynd, ac rydym yn disgwyl i ffigyrau godi a gostwng yn y blynyddoedd nesaf, ond mae'n galonogol i weld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir."
Pwysleisiodd mai prif nod y polisi oedd "lleihau anafiadau a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau, ac rydym ar drywydd cyflawni hynny".
Dywedodd hefyd ei fod yn derbyn bod angen codi terfyn cyflymder rhai ffyrdd 20mya yn ôl i 30mya.
Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r gostyngiad yn nifer yr anafiadau.
Dywedodd llefarydd bod y blaid "wedi datgan yn glir bod egwyddor gwneud ein ffyrdd yn saffach i'n cymunedau yn bwysig, ac mae yna arwyddion calonogol bod gostwng y terfyn cyflymder yn cyflawni hynny".
Ychwanegodd: "Rydym hefyd wedi cefnogi – a chynnig Plaid Cymru wnaeth sicrhau – adolygiad sy'n mynd rhagddo i'r polisi 20mya, i weld ble mae'n gweithio a ble allai orfod gael ei addasu."
Yn ôl llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, ni allai Llafur ddefnyddio'r ffigyrau i ddatgan bod y polisi 20mya yn llwyddiant.
"Rwy' wedi dweud ers sbel bod 20mya yn gwneud synnwyr tu allan i ardaloedd sensitif fel ysgolion, ysbytai a mannau addoli," dywedodd.
"Dyw e ddim yn gwneud synnwyr ar gefnffyrdd prysur ble dydy pobl a thraffig ddim yn agos i'w gilydd.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y byddwn ni'n dileu terfyn cyflymder 20mya hurt Llafur a'i weithredu mewn ardaloedd sensitif ble mae ei angen."