Ynys Môn: Pryderon am les gwartheg ar fferm

GwarthegFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn goruchwylio lles gwartheg ar un o ffermydd yr ynys.

Fe ddaw yn dilyn ymchwiliad i bryderon ynglŷn â lles anifeiliaid ar y fferm.

Mae BBC Cymru Fyw ar ddeall mai fferm laeth ydy'r fferm dan sylw.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Gallwn gadarnhau bod y cyngor sir wrthi’n goruchwylio lles nifer o wartheg.

"Mae ein swyddogion iechyd anifeiliaid wrthi’n gweithio’n agos â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Wledig Cymru."

Mae gan y cyngor sir gyfrifoldeb i sicrhau lles anifeiliaid yn unol â Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

Yn ôl elusen lles anifeiliaid RSPCA, dydyn nhw ddim yn ymwneud â'r achos yma'n benodol, ond fe gadarnhaodd llefarydd ar ran yr elusen fod adran safonau masnach cyngor sir Ynys Môn yn rhoi gwybod iddyn nhw am ddatblygiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.

"Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r Awdurdod Lleol yn ymchwilio ac ni allwn wneud sylw ar yr achos penodol hwn."

Pynciau cysylltiedig