'O'r diwedd ma' gyda ni rhaglen Y Llais yn Gymraeg'

Disgrifiad,

Dywedodd Bronwen Lewis ei bod wedi gwneud "cylch llawn" - o gystadlu ar y gyfres Saesneg yn 2013 i fod yn feirniad ar y gyfres newydd Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae un o hyfforddwyr rhaglen newydd 'Y Llais' wedi dweud ei bod hi'n "lwcus" i gael bod yn rhan o'r gyfres.

Bydd Bronwen Lewis yn ymuno â thri o hyfforddwyr eraill - Yws Gwynedd, Aleighcia Scott a Syr Bryn Terfel - ar fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang 'The Voice'.

Dyma fydd fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd 'The Voice', sy'n ceisio dod o hyd i gantorion newydd sy'n canu'n Gymraeg.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod fersiwn "o'r diwedd gyda ni yn yr iaith Gymraeg."

"Mae sefyll 'na a chwarae gyda cefnau pobl, mae e mor od fi'n gwybod, ond fi'n gobeithio gallu uniaethu gyda'r bobl sydd wedi mynd trwy'r rowndiau cyntaf 'ma.

"Ma' fe i gyd amdano'r Llais - does dim rhaid 'neud y dance moves mawr, meddwl am be' chi'n gwisgo. Ma' fe i gyd amdano'r talent."

O gystadlu i feirniadu

Roedd Bronwen yn rhan o'r gyfres yn 2013, a dywedodd mai hi oedd y person cyntaf i ganu yn Gymraeg ar y gyfres Saesneg.

"O'n i wrth gwrs moyn canu yn Gymraeg," meddai.

"O'r diwedd ma' gyda ni un yn yr iaith Gymraeg a pob tro fi'n troi lan i weithio gyda tîm 'Y Llais', fi'n gwybod pa mor lwcus ydw i, i fod yn hyfforddwr."

Fe fydd y cystadleuwyr yn camu i'r llwyfan mewn ymgais i gael eu coroni yn enillydd y gyfres, gan sicrhau gwobr o gynllun mentora 12 mis o hyd sy'n cynnwys cyfle i berfformio ar raglenni S4C.

Bydd pennod gyntaf Y Llais yn cael ei darlledu nos Sadwrn am 20:00 ar S4C.