Caerdydd yn cwympo o'r Bencampwriaeth

Bydd Caerdydd yn cystadlu yn Adran Un y tymor nesaf ar ôl gêm gyfartal yn erbyn West Bromwich Albion
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi disgyn o'r Bencampwriaeth ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn West Bromwich Albion dydd Sadwrn.
Wrth fynd i mewn i'r penwythnos, roedd angen buddugoliaeth a thipyn o lwc ar yr Adar Gleision i osgoi cwympo o'r gynghrair.
Ond roedd y gêm gyfartal a buddugoliaeth Luton Town yn ddigon i sicrhau y bydd tîm Aaron Ramsey yn cystadlu yn Adran Un y tymor nesaf.
Mae'n newid byd i glwb y brifddinas, oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn 2018, ond sydd wedi profi sawl tymor anodd ers hynny.
Dim ond naw gêm y mae Caerdydd wedi eu hennill y tymor yma, y nifer isaf yn y Bencampwriaeth.
Fe gafodd cyn-reolwr Caerdydd, Omer Riza, ei ddiswyddo ar 19 Ebrill, ac Aaron Ramsey fydd wrth y llyw ar gyfer y gemau olaf.
Ramsey yw'r 16eg rheolwr yn ystod 15 mlynedd Vincent Tan yn berchennog ar y clwb, ac roedd y protestio yn ei erbyn y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos diwethaf yn arwydd clir o deimladau rhai cefnogwyr.
Ar y pegwn arall, mae Wrecsam yn gobeithio creu hanes drwy ennill dyrchafiad am dri thymor yn olynol wrth esgyn i'r Bencampwriaeth o Adran Un.
Mi fydd Caerdydd yn chwarae nesaf yn erbyn Norwich ar ddydd Sadwrn, 3 Mai - eu gêm olaf o'r tymor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 awr yn ôl