Penwythnos hollbwysig i Wrecsam a Chaerdydd - beth sydd ei angen?

Aaron Ramsey a Phil Parkinson fydd yn arwain Caerdydd a Wrecsam y penwythnos hwn
- Cyhoeddwyd
Fe allai hi fod yn benwythnos hollbwysig i rai o glybiau pêl-droed Cymru, gyda dau ohonynt yn brwydro am le yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw bod Wrecsam gobeithio esgyn i'r gynghrair o Adran Un, tra bod Caerdydd yn ceisio osgoi disgyn o'r Bencampwriaeth.
Yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill, fe all Wrecsam greu hanes drwy ennill dyrchafiad am dri thymor yn olynol - nhw fyddai'r tîm cyntaf i wneud hynny erioed yn haenau uchaf cynghrair Lloegr.
Ond ar y pegwn arall, mae'r Adar Gleision mewn perygl o gwympo allan o'r Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 22 o flynyddoedd.
Felly beth sydd ei angen ar y ddau glwb?
Wrecsam

Mae capten Wrecsam, James McClean eisoes wedi chwarae yn y Bencampwriaeth ac Uwch Gynghrair Lloegr
Mae'r ddau dîm ar frig yr adran gyntaf ar ddiwedd y tymor yn sicrhau dyrchafiad awtomatig i'r Bencampwriaeth, ac ar hyn o bryd, mae Wrecsam yn yr ail safle.
Mae Wrecsam ar 86 o bwyntiau gyda dwy gêm i fynd, ond mae Wycombe Wanderers yn agos ar 84 yn y trydydd safle.
Os ydy Wrecsam yn curo Charlton Athletic ar y Cae Ras ddydd Sadwrn, a Wycombe Wanderers yn colli neu'n cael gêm gyfartal yn erbyn Leyton Orient, mi fydd y Dreigiau wedi gwneud digon am ddyrchafiad awtomatig.
Gemau dydd Sadwrn:
Leyton Orient (chweched safle) v Wycombe Wanderers (trydydd safle) - 12:30
Wrecsam (ail safle) v Charlton Athletic (pedwerydd safle) - 17:30

Tabl Adran Un cyn gemau dydd Sadwrn
Os ydy Wycombe Wanderers yn ennill neu os nad yw Wrecsam yn llwyddo i ennill, yna mi fydd rhaid aros tan y penwythnos olaf.
Gemau dydd Sadwrn 3 Mai (I gyd i ddechrau am 15:00):
Lincoln v Wrecsam
Wycombe Wanderers v Stockport
Charlton Athletic v Burton Albion
Mae'r timau sy'n gorffen yn y trydydd, pedwerydd, pumed a chweched safle yn mynd i'r gemau ail-gyfle.
Un o'r clybiau hynny fydd yn cael dyrchafiad yn y pendraw, ac felly fe fydd y rheolwr Phil Parkinson yn gobeithio osgoi'r drama a ddaw yn y gemau ail-gyfle:
"'Da ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud, mae dwy gêm i wneud hynny ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth i geisio cyflawni hynny."
Pennod anhygoel arall yn stori Wrecsam?

Mae Wrecsam wedi mynd o nerth i nerth ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu'r clwb
Pe bai Wrecsam yn llwyddo i ennill dyrchafiad mi fyddai'n bennod anhygoel arall yn hanes diweddar y clwb.
Fe wnaeth y sêr Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, brynu'r clwb ym mis Chwefror 2021 ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ar ôl treulio 15 mlynedd yn y bumed haen.
Bellach, mae actorion a cherddorion byd enwog ymhlith y rhai sydd wedi gwylio Wrecsam yn codi drwy'r cynghreiriau yn y Cae Ras, tra bod cynlluniau cyffrous i ddatblygu'r stadiwm ymhellach.
Byddai tri dyrchafiad yn olynol yn record yn haenau uchaf cynghrair Lloegr, ac o bosib mi fyddan nhw'n chwarae mewn cynghrair uwch na phrifddinas Cymru y tymor nesaf.
Caerdydd

Dyw pethau ddim yn edrych yn dda i Gaerdydd.
Gyda dwy gêm i fynd - gartref yn erbyn West Brom ac oddi cartref yn erbyn Norwich - mae angen buddugoliaethau a thipyn o lwc ar yr Adar Gleision.
Ond roedd 'na deimlad gan rai y gallai fod pethau ar ben yn barod wedi'r gêm gyfartal yn erbyn Oxford United ddydd Llun - yn enwedig ar ôl i'r holl dimau eraill sy'n brwydro i osgoi'r cwymp ennill.
Mae'n newid byd i glwb y brifddinas, oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn 2018, ond sydd wedi profi sawl tymor anodd ers hynny.

Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Aaron Ramsey bellach wedi ei benodi yn brif hyfforddwr dros dro
Mae sgôr y clwb o ran gwahaniaeth golau (-23) yn ei gwneud hi'n her anoddach fyth.
Os nad yw Caerdydd yn ennill ddydd Sadwrn, a Derby neu Luton yn llwyddo i gael buddugoliaeth, mi fyddan nhw'n cystadlu yn Adran Un y tymor nesaf.
Er mwyn cael unrhyw obaith o osgoi hynny mae'n rhaid i Gaerdydd ennill a Derby a Luton i beidio â chael buddugoliaeth.
Gemau dydd Sadwrn:
Luton (22ain safle) v Coventry (chweched safle) 12:30
Caerdydd (23ain safle) v West Bromwich Albion (10fed safle) 15:00
Hull (20fed safle) v Derby (21ain safle) 15:00

Tabl Y Bencampwriaeth cyn gemau dydd Sadwrn
Dim ond naw gêm y mae Caerdydd wedi eu hennill y tymor yma, y nifer isaf yn y Bencampwriaeth.
Fe gafodd cyn-reolwr Caerdydd, Omer Riza, ei ddiswyddo ar 19 Ebrill, ac Aaron Ramsey fydd wrth y llyw ar gyfer y gemau olaf.
Ramsey yw'r 16eg rheolwr yn ystod 15 mlynedd Vincent Tan yn berchennog ar y clwb, ac roedd y protestio yn ei erbyn y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos diwethaf yn arwydd clir o deimladau rhai cefnogwyr.
Mae capten Cymru wedi tynnu'r tîm cenedlaethol allan o sawl twll dros y blynyddoedd, ond a allai wneud gwyrthiau gyda'r Adar Gleision?
Mae Ramsey ei hun yn cydnabod ei bod yn "sefyllfa anodd" ond mynnodd bod "llawer o bethau allai ddigwydd cyn diwedd y tymor, a llawer o bêl-droed i'w chwarae hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd15 Ebrill