Hen draddodiad: Noson gyflaith

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Disgrifiad,

Miss Gretta Jones, Parc, Y Bala yn tywallt y cyflaith.

Roedd hi'n draddodiad mewn rhannau o ogledd Cymru i gynnal noson gyflaith dros gyfnod y Nadolig.

Byddai teuluoedd a ffrindiau yn dod at ei gilydd i'w baratoi. Y prif gynhwysion yw siwgr, menyn a dŵr.

Roedd rhaid berwi'r cynhwysion (siwgr, menyn a dŵr) a phan fyddai'n barod, ei arllwys ar lechen neu garreg fawr gyda saim arno.

Unwaith byddai'r cynnwys yn oeri, byddai pob aelod o'r tŷ wedyn yn cymryd tro i dynnu'r cyflaith tra ei fod yn gynnes.

Gwyliwch Miss Gretta Jones o'r Bala yn arllwys a thynnu'r cyflaith gyda'i ffrindiau.

Sut i wneud cyflaith

Cynhwysion:

225g siwgr Demerara

150g menyn hallt

150g triog du neu felyn

½ llwy de o finegr

Dull:

1.Rhowch y cynhwysion i gyd mewn sosban dros wres isel. Trowch y cyfan nes bod y siwgr wedi toddi.

2.Trowch y gwres i fyny a berwch am tua 10 munud. I weld os yw'n barod rhowch lond llwy de o'r gymysgedd mewn cwpan o ddŵr oer. Os bydd hwn yn caledu yn y dŵr ar unwaith gan adael y dŵr yn hollol glir fe fydd y cyfan wedi berwi digon.

3.Arllwyswch y cyflaith berw ar wyneb sydd wedi ei iro.

4.Irwch eich dwylo gyda menyn a thynnwch y cyflaith yn raffau.

5.Torrwch y rhaffau'n sgwariau cyn i'r cyflaith galedu.

6.Mwynhewch.

Geirfa

traddodiad/tradition

cyflaith/toffee

cynhwysion/ingredients

berwi/to boil

arllwys/to pour

saim/fat

tynnu/to pull

hallt/salty

triog/treacle

gwres isel/low heat

toddi/to melt

lond llwy de/full teaspoon

wyneb/surface

iro/grease

yn raffau/in ropes

caledu/become hardened

Pynciau cysylltiedig