Y ddynes sy'n gweu i addurno'r Rhyl

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Coeden Nadolig ar flwch post yn Y Rhyl

Mae Rachel Williamson a'i mam 92 oed wedi bod yn addurno tref Y Rhyl yn barod at y Nadolig.

Ond nid coed Nadolig maen nhw'n eu haddurno ond blychau post a gatiau.

Ers y pandemig mae Rachel a Thelma wedi gweu a chrosio dros 300 o dopiau.

Meddai Rachel sydd yn dod o'r Rhyl ac yn dal i fyw yno:

"Yn ystod Covid roeddwn i a fy efaill Ruth yn casglu presgripsiwn Mam o'r cemist. Roedd y ciw bob tro yn un hir a phawb yn edrych yn ddiflas.

"Ro'n i isio rhoi gwên ar wynebau pawb felly wnes i ddysgu crosio er mwyn rhoi het sbarcli ar y blwch post wrth ymyl y cemist. Ro'n i jest isio codi calon pobl Rhyl, felly dyna sut wnes i ddechrau."

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Rachel yn gweu

Help llaw gan ei Mam a'i hefaill

Doedd Rachel ddim yn siŵr beth fyddai'r ymateb i gychwyn.

"Ro'n i'n poeni fy mod i am fynd i drwbwl am daflu sbwriel, a dwi'n gyn-blismones!" meddai gan chwerthin.

"Yna wnes i un ar gyfer y swyddfa bost leol ac roedd yr ymateb yn dda iawn. Yn ôl gweithiwr yn y swyddfa bost, doedd neb yn siarad am Covid ddim mwy, roedd pawb yn sgwrsio am y topiau!"

Gyda'r topiau'n llwyddo i godi calon, roedd hi angen help llaw i greu rhagor.

"Mae Mam wedi bod yn ddynes brysur erioed. Cyn y pandemig roedd hi'n gwirfoddoli yn yr eglwys felly roedd hi'n dechrau diflasu yn ystod Covid.

"Wnes i ofyn wrthi os oedd hi'n cofio sut i weu... cwestiwn gwirion! Dros bedair blynedd yn ddiweddarach rydyn ni dal wrthi ac mae ein topiau wedi gwella a gwella.

"Mae Ruth hefyd yn helpu. Hi sy'n ffeindio ffyrdd i'w gosod yn dwt a'u gwneud i sefyll. Hi yw ein peiriannydd!"

Dros yr wythnosau diwethaf mae Rachel, Thelma a Ruth wedi bod yn addurno'r Rhyl a'r ardal gyda thopiau Nadoligaidd.

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Paddington yn Y Rhyl!

Ac yn newydd eleni mae top Paddington i ddathlu ffilm newydd yr arth enwog, a thop Cinderella ar flwch postio ger y prom – y panto sy'n ymweld â Theatr y Pafiliwn.

Ffynhonnell y llun, Richard Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Llygod Cinderella ger y prom

Ond mae addurniadau llynedd wedi dod yn ddefnyddiol hefyd. Llynedd, fe wnaeth Rachel a Thelma weu a chrosio topiau dan thema'r garol Saesneg 'The Twelve Days of Christmas'.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed ar dopiau llynedd, y rhai The Twelve Days of Christmas er mwyn eu defnyddio eto. Mae Mam wedi gweu dau ddrymiwr newydd ar ôl i ddau fynd ar goll llynedd!"

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Sawl drymiwr sydd yma?

Beth yw'r ymateb i'r topiau Nadolig?

"Mae pawb wrth eu boddau. Mae pobl yn rhoi gwlân i ni greu mwy ac yn anfon cardiau aton ni! Mae'r ysgolion lleol yn mynd â'r plant i'w gweld nhw hefyd. Doeddwn i ddim yn disgwyl yr ymateb yma pan wnes i gychwyn."

"Rydyn ni wedi creu Grinch a'i osod tu allan i Tesco yng Nghyffordd Llandudno hefyd. Ro'n i'n siopa un diwrnod ac roedd y blwch post yn edrych yn noeth ac angen ei addurno.

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Am unwaith, mae'r Grinch yn codi calon

"Rydyn ni wedi creu ci eira a'i osod tu allan i'r feddygfa a dyn eira tu allan i ysgol ym Mae Colwyn."

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Ci eira tu allan i'r feddygfa

"Mae ein cymdogion yn hoffi rhai i'w rhoi ar eu gatiau, o ddynion eira a Siôn Corn i stori'r geni!"

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Dyn eira bach hapus

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Stori'r geni

Ffynhonnell y llun, Rachel Williamson
Disgrifiad o’r llun,

Ho Ho Ho!

Ond pwy sydd orau am weu a chrosio, Rachel neu ei mam 92 oed?

"Byddwn i'n dweud fy Mam, ond byddai hi'n dweud fi. Mae ganddi lawer o amynedd ac mae hi'n berffeithydd. Mae hi mor fanwl. Mae ei gweu am ddynes 92 yn anhygoel."

Geirfa

addurno – decorate

addurniadau - decorations

blychau post – post boxes

gweu - knit

crosio - crochet

gatiau – gates

topiau – toppers

efaill – twin

diflas – bored

codi calon – to cheer up

cyn-blismones – former policewoman

ymateb – reaction

gweu – to knit

peiriannydd - engineer

gwirfoddoli – volunteer

gosod – to arrange

Nadoligaidd – Christmassy

arth – bear

gwlân – wool

noeth – naked

meddygfa – surgery

cymdogion – neighbours

amynedd - patience

Pynciau cysylltiedig