Hanes gaeafau caletaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Eira Llambed yn 1982
Fe wnaeth hi fwrw eira mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn ddiweddar.
Mae'r tywydd wedi oeri a dyma olwg ar rai o aeafau caletaf Cymru.
Mae’r darn yma’n addasiad o ddarn Elin Tomos ar hanes tywydd garw yng Nghymru.
Y ffotograff cyntaf o ddyn eira

Dyn eira Mary Dillwyn yn ystod gaeaf 1853-4
Roedd gaeaf ofnadwy o oer yn 1709. Am dri mis roedd afonydd, llynnoedd a chaeau yng Nghymru wedi rhewi.
Roedd storm eira yn ne Cymru dros gyfnod y Nadolig 1853. Roedd hi'n bwrw eira rhwng 27 Rhagfyr 1853 a 5 Ionawr 1854. Roedd adroddiadau yn dweud bod yr eira yn 12 troedfedd o uchder yn Llanymddyfri, Llangadog a Llandeilo.
Mae'n debyg mai yn ystod gaeaf 1853-4 roedd y ffotograff cyntaf erioed o ddyn eira wedi cael ei dynnu ym Mhenlle'r-gaer ar gyrion Abertawe. Y ffotograffydd oedd Mary Dillwyn (1816-1906), ffotograffwraig cynharaf Cymru.
Gaeafau rhewllyd
Er y gall tywydd gwael greu problemau ar ein ffyrdd, i rai mae tywydd oerach yn beth da. Yn ystod gaeaf caled 1895-6 cafodd pobl Dyffryn Peris gyfle i fwynhau ychydig o chwaraeon gaeafol.
Yn ôl gohebydd Y Faner, pan rewodd Llyn Padarn yn Llanberis roedd 'miloedd o bobl, hen ac ifanc' yn croesi'r llyn ac yn mwynhau.
Llwyddodd Mr Closs Williams, Garreg Wen a Mr W. Lloyd Williams i groesi'r llyn gyda cheffyl a throl tra'r oedd Mr Holme a Mr Rigby yn dilyn ar esgidiau sglefrio!
Yn naturiol, roedd antur y pedwar yn destun siarad yn yr ardal.

Llyn Padarn wedi rhewi 1895-6
Yn ystod yr un cyfnod, rhewodd Llyn Tegid ger Y Bala hefyd. Yn ôl gohebydd Y Cymro roedd 'môr y Bala'n fôr o wydr' gydag 'ugeiniau yn sglefrio ar ei wyneb.' Roedd rhai'n dweud bod y tymheredd wedi gostwng i -28°C!
Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd gaeaf rhewllyd iawn yn 1917. Roedd adroddiad ym mhapur newydd Y Genedl yn dweud fod 50 troedfedd o eira ar Garnedd Llywelyn ac roedd Rhaeadr Ewynnol ger Betws-y-coed wedi rhewi'n llwyr.

Eira yn y ffosydd, 1917
Yn Ffrainc yn 1917 roedd y tywydd oer yn ofnadwy i'r milwyr. Roedd Preifat John R. Evans wedi ysgrifennu mewn llythyr at Carneddog (Richard Griffith 1861 - 1947): 'Roedd cysgu allan o'r cwestiwn gan ei bod hi mor oer… yn enwedig mewn tent…'
Geirfa
Bwrw eira / snowing
Diweddar / recently
Caletaf / hardest
Addasiad / version
Garw / severe
Afonydd / rivers
Llynnoedd / lakes
Caeau / fields
Adroddiadau / reports
Troedfedd / feet (in terms of measurements)
Uchder / height
Ffotograff / photograph
Dyn eira / snowman
Ar gyrion / on the outskirts
Ffotograffwraig / female photographer
Ffyrdd / roads
Oerach / colder
Caled / hard
Chwaraeon gaeafol / winter sports
Gohebydd / reporter
Rhewodd / froze
Llyn / Lake
Croesi / to cross
Ceffyl / horse
Trol / cart
Antur / adventure
Testun siarad / talking point
Cyfnod / period
Môr o wydr / sea of glass
Ugeiniau / twenties
Esgidiau sglefrio/ skates
Sglefrio / skate
Tymheredd / temperature
Gostwng / fall
Papur newydd / newspaper
Milwyr / soldiers
Yn enwedig / especially
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024