'Mabwysiadu plentyn wedi newid ein bywydau'n llwyr'
- Cyhoeddwyd
"Maen nhw 'di llenwi rhyw dwll mawr yn fy mywyd."
Yn 40 oed, mae Alaw Jones o Wynedd wedi mabwysiadu dwy ferch.
Mae aelodau eraill o'i theulu wedi mabwysiadu plant hefyd ac mae hi'n gweithio i'r gwasanaeth mabwysiadu yn y gogledd.
Go brin fod yna unrhyw un fwy cymwys i sôn am fabwysiadu.
200 o blant yn aros
"Mae pobl yn deud 'tha fi'n aml 'mae'r genod yn lwcus'. Nadyn dydyn nhw ddim. Dydyn nhw ddim yn byw gyda'u teulu genedigol," meddai.
"Hwyrach eu bod nhw'n lwcus mai efo fi maen nhw 'di cael eu lleoli ond dydy hynny ddim yn newid petha'.
"Y lle gorau i unrhyw blentyn yw hefo'i deulu genedigol, os ydy hynny'n saff."
A hithau'n Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn poeni bod nifer y bobl sy'n cofrestru i fabwysiadu yn gostwng.
Mae 200 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd ond mae nifer y bobl sy'n cael eu cymeradwyo bob blwyddyn wedi haneru - o 300 cyn cyfnod y pandemig i tua 150 erbyn hyn.
"Mae costau byw yn uchel," meddai Alaw. "Mae cefnogaeth yn ffactor. Oes mae yna gefnogaeth i'w gael ond mae dal lle i wella.
"O ran anghenion y plant mae pobl ofn y dyfodol ac o ganlyniad efallai'n amharod i gysidro mabwysiadu."
- Cyhoeddwyd5 Awst
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
'Yr opsiwn naturiol i ni'
Yn y 10 mlynedd ers ei sefydlu mae'r gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn nifer y cyplau o'r un rhyw sy'n mabwysiadu.
Dim ond ers 2005 mae hi wedi bod yn gyfreithlon iddyn nhw wneud hynny.
Mae cyplau fel Guto a Rhys o Gaerdydd nawr yn cynrychioli chwarter y bobl sy'n mabwysiadu.
"Roedd hwnna'n dod i rym ar adeg pan o'n i'n dod i delerau gyda fy rhywioldeb fy hunan," meddai Guto, sy'n 32.
"Roedd gwybod bod hynna'n opsiwn yn gysur mawr.
"Pan o'n i a fy ngŵr yn trafod cael plentyn roedd hi'n rhywbeth naturiol i ni ddweud taw mabwysiadu oedd yr opsiwn iawn i ni."
Trawma all bara am blynyddoedd
Mae rhieni sengl fel Alaw yn cynrychioli 10% o'r bobl sy'n cael eu derbyn i fabwysiadu.
Er yr heriau mae hi'n dweud ei bod hi ar ben ei digon.
"Dwi'n lwcus ohonyn nhw - maen nhw 'di llenwi rhyw dwll mawr yn fy mywyd."
Yn ôl Alaw dydy pobl ddim wastad yn deall fod plant sydd wedi eu mabwysiadu wedi dioddef rhyw fath o drawma allai effeithio arnyn nhw am flynyddoedd.
"Dwi'n gwybod be' mae 'mhlant i wedi bod drwyddo," meddai.
"Dydw i ddim eisiau i bobl eraill wybod rhag iddyn nhw deimlo bechod drostyn nhw.
"Maen nhw'n blant bach unigol ar ddiwedd y dydd sydd yn haeddu bod yn pwy ydyn nhw."
'Dyw hon ddim sefyllfa Cinderella'
Dyna pam, medd Guto, bod y broses mabwysiadu mor drylwyr.
"Mae'r broses o ddod i 'nabod ni hefyd yn rhoi'r cyfle i ni ddod i ddeall beth yw e i fabwysiadu plentyn sydd â chefndir o drawma," meddai.
"Mae hynny'n hollbwysig i sicrhau eich bod chi'n barod ar gyfer pan mae'r plentyn yn cyrraedd ac eich bod chi'n gallu delio gyda'r problemau allai godi.
"Un o'r pethe gafodd ei ddweud wrthon ni ar y dechre: 'Dyw hon ddim yn sefyllfa Cinderella - y plentyn yw'r peth pwysig'."
Bellach mae'n dair blynedd ers iddyn nhw fabwysiadu bachgen bach.
"Mae e'n llawn drygioni, llawn bywyd, llawn hapusrwydd," meddai Guto.
"Mae e wastad ishe mynd a 'neud pethe. Mae e'n ddwl am helpu glanhau, coginio, golchi'r car.
"Mae e'n llawn bywyd ac yn wên i gyd. Mae e wedi newid ein bywydau ni yn llwyr."