Marian Delyth: 50 mlynedd o gofnodi 'pobl sy'n creu gwell byd'
- Cyhoeddwyd
Mae Marian Delyth, un o ffotograffwyr amlycaf Cymru, wedi bod yn tynnu lluniau ers hanner canrif ac ar hyn o bryd mae detholiad o'r lluniau hynny i'w gweld mewn arddangosfa yng Nghaerdydd.
'Darnau' yw'r teitl a roddwyd ar yr arddangosfa ac mae Marian Delyth yn gobeithio ei bod yn cyfleu ei phrif ddyhead sef "cofnodi unigolion argyhoeddedig sy'n creu gwell byd".
Dywed ei bod yn anodd dewis detholiad o luniau sy'n cwmpasu hanner canrif o yrfa ond yn fras mae mwyafrif o'i lluniau yn ymateb i anghyfiawnder cymdeithasol, hiliaeth a gormes.
"Mae'n bwysig rhoi llais i bobl gyffredin, grwpiau ymylol a mudiadau protest - i'r lleisiau hynny sydd wedi'u tawelu yn hanesyddol," meddai.
Mae yna gofnod o ymgyrchoedd iaith ac amgylcheddol, protestiadau heddwch a gwrth-niwclear a hefyd mae yna luniau sy'n cofnodi "yr hen ffordd Gymreig o fyw yng nghefn gwlad" a'r tristwch o gau capeli.
Mae Marian Delyth yn byw ym Mlaenplwyf ger Aberystwyth a dywed bod "cofnodi pobl o'm cwmpas yn hynod o bwysig" lle bynnag mae hynny.
"I raddau mae prosiect y Filltir Sgwâr yn ardal y Mynydd Bach sef ardaloedd Blaenpennal, Bronant, Llangwyryfon, Lledrod a Phenuwch yn rhoi blas o'r bywyd a fu.
"Mi roedd yna gymeriadau unigryw ac yn yr arddangosfa mae gen i gyfres o luniau ar ddiwrnod pluo'r ŵydd - diwrnod lle roedd cymuned yn dod at ei gilydd i bluo a lladd gwyddau.
"Heb yn wybod bron 'nes i gofnodi hen arferion - fel smwddio'r ŵydd i ryddhau'r plu.
"Mae rhywun, yn naturiol, yn cofnodi newidiadau, dirywiad ond delweddau gobeithiol hefyd."
Mae'r arddangosfa yn cael ei chynnal yn oriel Ffotogallery yn Cathays yng Nghaerdydd - adeilad a oedd yn arfer bod yn Ysgol Sul.
"Festri capel oedd yr oriel yn Fanny Street a gan bod yna rai o bethau o'r capel yn dal yno mae'n cynnig ei hun i luniau ar y thema capel - ac mae gen i ddigon o luniau ar y thema hwnnw," meddai Marian Delyth wrth siarad â Bwrw Golwg.
"Un o'r pethau dwi wedi etifeddu yw bwrdd emynau - bwrdd a wnaed gan fy nhad-cu i gapel Seilo yn Aberystwyth ac yna a ddaeth i gapel Blaenplwyf ond wedi i hwnnw gau, mae e gen i.
"Yn ffodus mae'n cynnig ei hun ar gyfer lluniau 5x7 - mae ynddo luniau o'r hyn a fu ond lluniau gobeithiol hefyd - lluniau sy'n dangos bod yna ddefnydd arall i gapel wedi iddo gau.
"Cafodd capel Tabernacl Cwmsymlog, er enghraifft, ei ddefnyddio ar gyfer ffilmio Y Gwyll ac mae capel Bronnant wedi'i ddefnyddio ar gyfer perfformiadau."
"Dwi wedi tynnu llun o sawl capel cyn iddyn nhw gael eu gwerthu - yn cofnodi eitemau a gafodd eu gadael ar ôl yn y capel.
"O gofnodi y gweddillion mae rhywun yn gweld pam bod hi mor anodd i gau capel. Mae'r eitemau sy'n y capel yn cynnal atgofion - nid yn unig o'r presennol ond aelodau o'r teulu yn y gorffennol.
"Fe fues i'n ffodus o gael treulio cyfnod fel artist preswyl yn Llandudno yn 2016 pan oedd capel y Tabernacl yn cau a'r hyn wnes i oedd gofyn i'r merched yno ddewis un eitem o'r hyn a adawyd ar ôl - mae un wedi dewis llyfr emynau, un wedi dewis clwtyn sychu llestri ac un arall wedi dewis tecell.
"Roedd 'A wnaiff y gwragedd aros ar ôl' - teitl cerdd Menna Elfyn yn berthnasol iawn i'r arddangosfa honno. Dwi'n ffindio'n aml wrth dynnu lluniau y bydd llinellau o farddoniaeth yn dod i'r meddwl."
Mae Marian Delyth wedi dathlu ei phen-blwydd yn 70 eleni ond dyw hi ddim am roi'r camera yn y to eto!
"Dwi'n dal i dynnu lluniau - mae hynny'n cadarnhau fy mod dal yma ac fy mod i'n dal i edrych a theimlo ac ymateb i'r byd o'm cwmpas i," meddai.
"Mae wedi bod yn dasg eithriadol o anodd dethol gwaith o hanner canrif o dynnu lluniau ac mae gen i un cyngor i'r genhedlaeth ifanc - gofalwch ar ôl eich gwaith.
"Mae gen i luniau yn yr arddangosfa 'nes i brintio pan yn y coleg," ychwanegodd.
Mae sgwrs Marian Delyth i'w chlywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 12:30, 13 Hydref ac yna ar BBC Sounds