Ryff geid i osod cerdd dant (i'r rhai di-glem)
- Cyhoeddwyd
![Cerdd dant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A865/production/_121490134_cerdd_dant.jpg)
Chafodd yr Ŵyl Cerdd Dant mo'i chynnal eto eleni oherwydd coronafeirws, felly ni chafodd pobl gyfle i heidio i Lanfyllin am wledd o gerddoriaeth, canu, dawnsio, ac wrth gwrs, y delyn.
Ond nid yw telyn yn hanfodol i ganu cerdd dant, fel mae prosiect uchelgeisiol gan BBC Radio Cymru wedi ei brofi, lle mae artistiaid - rhai ohonynt yn newydd i'r genre - wedi cael y profiad unigryw o ganu cerdd dant i gyfeiliant cerddorfa.
Felly os nad oes angen telyn, beth yn union yw cerdd dant? Gwennant Pyrs - sy'n flaenllaw yn y traddodiad yma yng Nghymru ers degawdau - sy'n egluro sut yn union mae creu darn o gerdd dant.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
![Gwennant Pyrs](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8155/production/_121490133_gwennant_pyrs.jpg)
Gwennant Pyrs
Mae hi'n Dachwedd unwaith eto, a'r teulu Cerdd Dant wedi ei amddifadu o benwythnos diwylliedig llawn hwyl ynghanol Mwynder Maldwyn a Gŵyl Cerdd Dant Bro Nansi. Colli cymdeithasu a throi ymysg pobl sy'n rhannu'r un diddordeb, ac efallai golli clywed ambell sgwrs megis:
'Pwy sydd wedi gosod i ti?' 'Ew gosodiad da!
'Geirie anodd eu gosod a'u corfannu!'
Ac 'Ar ba gainc ma' nhw wedi eu gosod?'
I ganran uchel o bobl, mae'n debyg y byddai'r cwestiynau uchod yn swnio fel rhyw gyfrin eiriau neu god annealladwy.
Ond mewn gwirionedd, dyma gyfeirio at y cyfuniad o farddoniaeth a cherddoriaeth a sut mae gwahanol unigolion, neu'r gosodwr, wedi cyfansoddi alaw ar ddarn o farddoniaeth ac i gyfeiliant telyn.
![Côr cerdd dant yn canu i gyfeiliant dwy delyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/CF75/production/_121490135_cor_cerdd_dant.jpg)
Côr cerdd dant yn canu i gyfeiliant dwy delyn - yr olygfa arferol
Sut mae mynd ati felly i greu gosodiad?
Fel mewn unrhyw gân arall, yn glasurol neu bop, mae yna ragarweiniad, a daw'r llais/lleisiau i mewn ar ôl ychydig o guriadau.
Yr un egwyddor sydd yma, ac mae neges y geiriau yr un mor bwysig yn y ddau gyfrwng, ond y geiriau sy'n arwain mewn cerdd dant, a chlec yr acenion yn cyfateb i brif acenion y gainc.
Os oes gennych hoffter o farddoniaeth o unrhyw fath, boed yn hen bennill draddodiadol, yn gywydd neu gân bop, mae modd creu gosodiad ar unrhyw un o'r rhain.
Cymerwch bennill pedair llinell fel:
Nid wy'n gofyn bywyd moethus
Aur y byd na'i berlau mân;
Gofyn 'rwyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Chwiliwch am y prif acenion wrth ei hadrodd:
Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân,
Gofyn 'rwyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Mae yna fydr naturiol i'r geiriau ac mae'r prif acenion yn amlwg.
Dewiswch gainc fer (8 bar) syml a llawen ei naws.
Unwaith y dechreua'r delyn chwarae'r gainc, cyfrwch saith curiad (piano a ddefnyddir mewn ymarfer) gan 'daro'i mewn' ar yr wythfed curiad, gan ganu alaw sy'n gweddu i gordiau'r delyn, a dyna chi wedi creu eich gosodiad cyntaf!
Mae ychydig mwy iddi, o ddewis cerddi o wahanol fesurau, ond dyna'n fras beth yw hanfod gosod cerdd dant.
Cofiwn mai canu byrfyfyr ar y pryd oedd canu cerdd dant yn ei ffurf cynharaf.
![Gwennant Pyrs, Gwenan Gibbard, Glain Rhys, Lisa Angharad, Linda Griffiths a Iestyn Tyne, gydag Owain Roberts yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3335/production/_121490131_cerdd-dant_cerddorfa.jpg)
Gwennant Pyrs, Gwenan Gibbard, Glain Rhys, Lisa Angharad, Linda Griffiths a Iestyn Tyne, gydag Owain Roberts yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Cerdd dant... i gyfeiliant cerddorfa?!
Yn Hydref 2021, gosodwyd sialens heriol a chynhyrfus gan BBC Radio Cymru lle roedd gofyn i'r dewin cerddorol Owain Roberts drefnu wyth o'm ceinciau, a minnau gyfansoddi gosodiad cerdd dant ar yr un nifer o gerddi. Hyn oll i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol y BBC a recordiwyd yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Ychwanegwch i'r potes ddoniau disglair Gwenan Gibbard, Linda Griffiths a'i merch Lisa Angharad, Glain Rhys a'r bardd Iestyn Tyne.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bu'n ddiwrnod cofiadwy ac emosiynol, a theimlem oll ein bod yn ein ffordd fach ein hunain wedi creu ychydig o hanes, trwy fentro rhoi gogwydd gwahanol ar gerdd dant, ac yn yr un modd warchod traddodiad unigryw a chyfoethog sy'n rhan o'n hunaniaeth.
I ddyfynnu geiriau'r Gymdeithas Cerdd Dant: 'Mae'r grefft o reidrwydd ynghlwm wrth yr iaith Gymraeg ei hun, ac felly mae tynged un yn dibynnu ar y llall.'
Ein cyfrifoldeb ni yw gwarchod y grefft a'i datblygu.
Felly ewch ati i gerdd dantio!