Ysbyty'n ymddiheuro wedi marwolaeth merch flwydd oed

Eleanor Hazel Aldred-Owen a'i rhieniFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Eleanor Hazel Aldred-Owen yn 21 mis a phedwar diwrnod oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysbyty Plant Alder Hey wedi "ymddiheuro o waelod calon" i deulu merch flwydd oed o'r gogledd ddwyrain fu farw yn dilyn "camgymeriadau yn ystod ei gofal".

Bu farw Eleanor Hazel Aldred-Owen ar 2 Hydref 2023 yn 21 mis oed.

Yn ôl cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran y teulu, fe nododd ymchwiliad mewnol yr ysbyty yn Lerpwl fod 25 o fethiannau yn y gofal a dderbyniodd Eleanor, ac y byddai wedi bod modd osgoi ei marwolaeth.

Daeth Crwner i'r casgliad fod marwolaeth Eleanor yn ddamweiniol, ond bod esgeulustod wedi chwarae rhan.

Bu'n rhaid i Eleanor - gafodd ei geni ym mis Rhagfyr 2021 - gael llawdriniaeth yn Ysbyty Alder Hey ar 29 Medi 2023.

Yn ôl cwmni cyfreithiol Hugh James, fe aeth y llawdriniaeth honno fel y disgwyl - ond am y ffaith bod ei thiwb anadlu wedi disgyn allan am gyfnod byr cyn iddo gael ei newid gan yr anesthetydd.

Wrth wella o'r llawdriniaeth, fe brofodd Eleanor rywfaint o drafferthion gyda'i churiad calon a'i hanadlu, a chafodd ei symud i ward gyda chyngor i ddefnyddio ARIVO - math arbennig o ocsigen - os oedd y problemau'n parhau.

Er bod curiad calon Eleanor yn parhau yn uchel a'i hanadl yn cyflymu, mae datganiad Hugh James yn nodi fod y penderfyniad wedi ei wneud i beidio â dechrau defnyddio ARIVO.

Cafodd hi archwiliad pelydr-x a phrofion gwaed a ddangosodd fod gan Eleanor tension pneumothorax, ond ni chafodd y profion hynny eu hadolygu gan feddyg yn syth.

Cafodd Eleanor ataliad ar y galon funudau yn ddiweddarach, ac er i feddygon lwyddo i'w hadfywio, fe ddangosodd profion pellach bod ganddi anaf difrifol ar yr ymennydd nad oedd modd gwella ohono, a bu farw ar 2 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Eleanor ei bod yn "anodd credu" nifer y methiannau yn ei gofal

Mewn gwrandawiad yn Llys Crwner Lerpwl a Chilgwri ddydd Mercher, fe ddaeth y crwner i'r casgliad fod marwolaeth Eleanor yn ddamweiniol, ond bod esgeulustod wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Dywedodd Lynda Reynolds, cyfreithiwr y teulu: "Y peth ofnadwy am yr achos yma yw y byddai mater o funudau wedi gwneud byd o wahaniaeth.

"Byddai wedi bod modd trin y tension pneumothorax cyn iddi gael ataliad ar y galon, ac fe fyddai hi wedi gwella. Ond cafodd ei adnabod 10 munud yn rhy hwyr, a hynny ar ôl iddi fod ar y ward ers rhai oriau yn cael trafferth anadlu."

Yn ôl rhieni Eleanor, Rachel a Chaz, mae ei marwolaeth a gwylio ei chyflwr yn dirywio wedi eu llorio: "Hi oedd ein merch fach anhygoel ni, ac mae ein bywydau ni'n wag ac yn fud hebddi.

"Mae'n anodd credu'r methiannau sydd wedi eu hamlygu gan yr ysbyty ac wedi eu cydnabod gan y crwner. Roedden ni dan yr argraff y byddai Eleanor dan ofal arbenigwyr, ond yn hytrach, roedd 24 o wersi i'w dysgu yn ymwneud â'r gofal gafodd hi wedi ei llawdriniaeth."

'Wedi methu'r teulu, ac wedi methu Eleanor'

Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Alder Hey mewn datganiad eu bod yn derbyn casgliadau'r crwner yn llawn.

"Ry'n ni'n cydymdeimlo o waelod calon gyda rhieni a theulu Eleanor, ac wir yn ymddiheuro am y camgymeriadau gafodd eu gwneud yn ei gofal.

"Rydyn ni'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y camgymeriadau hynny. Ni ddylen nhw erioed fod wedi digwydd... Gobeithio fod ymchwiliad yr ymddiriedolaeth wedi cynnig atebion i rai o'r cwestiynau yr oedd gan y teulu.

"Fel ymddiriedolaeth rydyn ni wedi ymrwymo yn llawn i sicrhau nad oes unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto. Mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried y methiannau yn y gofal gafodd Eleanor, ac yn cyflwyno gwelliannau addas i'n systemau a'n prosesau."

Ychwanegodd yr ymddiriedolaeth eu bod nhw bellach wedi cyflwyno newidiadau yn seiliedig ar argymhellion yr ymchwiliad.

Mae'r newidiadau hynny yn cynnwys adolygu cynlluniau a phrosesau penodol, craffu eu systemau rhybudd cynnar a chynnig rhagor o hyfforddiant i staff.

"Mae'n dorcalonnus ein bod ni wedi methu'r teulu, ac wedi methu Eleanor, ac am hynny fyddwn ni wastad yn edifar," meddai'r datganiad.

Pynciau cysylltiedig