'Mae'r rhai wnaeth ladd fy mab y bobl mwyaf drwg ar y ddaear'

EthanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths ym mis Awst 2021 ar ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid

  • Cyhoeddwyd

Gallai manylion y stori hon achosi gofid

Mae tad plentyn bach a gafodd ei lofruddio gan ei daid a'i nain yn dweud iddo ddal ei fab wrth i'w beiriant cynnal bywyd gael ei ddiffodd ac mae wedi eu disgrifio fel y "bobl mwyaf drwg ar y ddaear".

Cafodd Ethan Ives Griffiths, a oedd yn ddyflwydd oed, ei ladd gan Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, yn eu cartref yn Garden City, Sir y Fflint, ym mis Awst 2021.

Cafodd mam Ethan, Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, ei chanfod yn euog o achosi creulondeb i blentyn ac o achosi neu ganiatáu marwolaeth Ethan.

Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd tad Ethan, Will Griffiths, 29, ei fod yn beio ei hun yn rhannol am farwolaeth Ethan ac mae'n honni iddo rybuddio gwasanaethau cymdeithasol Sir y Fflint nad oedd y plentyn yn ddiogel gyda'i nain a'i daid.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint eu bod yn cydweithredu gydag adolygiad ymarfer plant.

Dioddefodd Ethan anaf trychinebus i'w ymennydd yng nghartref ei daid a'i nain ar 14 Awst, 2021, a bu farw yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd yn dioddef o ddiffyg maeth difrifol, roedd o dan bwysau, ac roedd ganddo fwy nag 40 o anafiadau ar ei gorff.

Aeth Ethan i fyw gyda'i nain a'i daid ym mis Mehefin 2021 ar ôl anghydfod domestig a arweiniodd at Shannon yn gwahanu oddi wrth dad Ethan, Will Griffiths.

Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, symudodd Shannon i mewn hefyd.

Dangoswyd ffilm teledu cylch cyfyng o gartref y teulu yn ystod yr achos - roedd yn dangos taid Ethan yn cario'r bachgen bach dro ar ôl tro gerfydd un fraich fel "bag o sbwriel".

Cafodd ei weld hefyd, yn ôl pob golwg, yn annog plentyn arall i daro Ethan.

Yn aml, roedd Ethan yn cael ei orfodi i sefyll a chadw ei ddwylo uwch ei ben, fel math o gosb.

EthanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau teulu o Ethan cyn iddo symud at ei nain a'i daid yn dangos ei fod yn blentyn cymharol iach a hapus

Wrth ddisgrifio gwylio'r delweddau yn y llys, dywedodd Mr Griffiths mai dyma'r "peth gwaethaf" yr oedd erioed wedi gweld person yn ei wneud i blentyn.

"Mae'n troi fy stumog i feddwl am y ffordd y gwnaeth ei gario o dro ar ôl tro. Dwi'n gwybod y byddai wedi cael i frifo," meddai.

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl y byddech chi hyd yn oed yn gweld hyn gyda charcharorion rhyfel.

"Dydw i wir ddim yn meddwl y byddech chi.

"Mae'n destun pryder mawr i feddwl mai'r rhain yw'r bobl a oedd i fod i'w garu.

"Ac maen nhw wedi dangos popeth ond cariad iddo."

Dywedodd yr erlynydd bod anaf angheuol i ymennydd Ethan ar 14 Awst wedi'i achosi gan "ymosodiad grymus".

Honnodd ei nain a thaid iddo "gwympo" wrth wylio'r teledu yn eu cartref".

Will Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Wrth ddisgrifio gwylio'r delweddau yn y llys, dywedodd Mr Griffiths mai dyma'r "peth gwaethaf" yr oedd erioed wedi gweld person yn ei wneud i blentyn

Y diwrnod wedyn cafodd Mr Griffiths alwad gan ei gyn-bartner, Shannon, i ddweud bod Ethan wedi syrthio a bellach yn yr ysbyty.

Dywedodd ar y ffordd i'r ysbyty iddo brynu cerdyn gwellhad buan, gan feddwl ei fod wedi cael "cwymp bach" a'i fod yn mynd i fod yn iawn.

Wrth iddo gerdded i mewn i'r ystafell yn yr ysbyty dywedodd Mr Griffiths nad oedd yn adnabod ei fab ac nad oedd wedi ei weld ers 10 wythnos.

"Doeddwn i methu credu mai fy mab i oedd o. Doedd o ddim yn edrych fel Ethan," meddai.

"Roedd o'n hollol wahanol o'i gorun i'w sawdl. Doedd na ddim ohono fo.... roedd wedi'i orchuddio'n llwyr â chleisiau.

"Roedd yn olygfa arswydus."

Will GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ei fab Ethan yn arfer bod yn llawn bywyd, medd ei dad

Y diwrnod wedyn cafodd ei alw i'r ysbyty gydag aelodau o'i deulu, lle cafodd y penderfyniad ei wneud i ddiffodd peiriant cynnal bywyd Ethan, ar ôl i feddygon ddweud nad oedd dim mwy y gallen nhw ei wneud.

"Dyna oedd y penderfyniad anoddaf i mi erioed ei wneud o bell ffordd, ac hyd heddiw a hyd y diwrnod y byddaf farw, byddaf yn difaru gwneud y penderfyniad hwnnw.

"Rwy'n dal i weld y ddelwedd yn fy mhen... mae o fel ddoe.

"Ges i'r cyfle i'w ddal tra cymerodd ei anadl olaf. O leiaf roedd yn gwybod yn ei foment olaf, bod rhywun yr oedd yn ei garu go iawn yn ei ddal."

Bydd Michael a Kerry Ives yn cael eu dedfrydu ar 3 HydrefFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Michael a Kerry Ives yn cael eu dedfrydu ar 3 Hydref

Clywodd yr achos chwe wythnos bod gwasanaethau cymdeithasol wedi ymwneud â Shannon Ives a Will Griffiths, a'u plant.

Roedd honiad o gam-drin domestig yn erbyn Mr Griffiths, a chafodd ei gyhuddo hefyd o fod yn ymosodol tuag at weithiwr cymdeithasol ar 9 Mehefin 2021 – a arweiniodd at ei arestio a'i deulu'n symud allan, yn y pen draw at Michael a Kerry Ives.

Gwnaed honiadau eraill hefyd, gan gynnwys ei fod wedi cam-drin Shannon, ac wedi taflu Ethan yn gorfforol.

Mae'n gwadu'r holl honiadau a glywyd yn y llys a ni chymerwyd unrhyw gamau pellach ar ôl ei arestio.

Pan ofynnwyd iddo pam, os oedd yr holl honiadau'n anghywir, fod ei bartner a'i blant wedi gadael, atebodd: "Mae ei theulu'n hoffi mynd i mewn i'w phen."

Dywedodd y byddent yn "dweud pob math o bethau i wneud yn siŵr nad wyf yn cael gweld fy mhlant" ond ei fod wastad wedi profi nad oedd yn euog.

Dywedodd Mr Griffiths fod ei berthynas â Michael Ives wedi bod yn un "sur o'r diwrnod cyntaf," pan ddechreuodd weld Shannon pan yn 18 oed.

ShannonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mam Ethan, Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, ei chanfod yn euog o achosi creulondeb i blentyn ac o achosi neu ganiatáu marwolaeth Ethan

Aeth y cwpl ymlaen i gael tri o blant gyda'i gilydd.

Dywedodd fod Ethan yn "fachgen bach hardd" oedd gyda'r "wên fwyaf".

"Roedd yn fachgen cariadus iawn, iawn ac roedd bob amser eisiau gwneud rhywbeth.

"Roeddwn ni'n dweud fod ganddo forgrug yn ei drowsus. Roedd bob amser eisiau rhedeg o gwmpas a neidio o gwmpas yn chwarae.

"Fel unrhyw blentyn, roedd yn llawn bywyd."

Dywedodd fod Ethan wrth ei fodd yn cael cwtsh.

"Roedd Ethan yn ei elfen yn gwisgo ei 'sgidiau glaw yn yr ardd, dim ots beth oedd y tywydd," meddai.

Dywedodd mai un o eiliadau hapusaf ei fywyd oedd pan oedd Ethan a'i blant eraill i gyd yn chwarae yn yr ardd un haf.

"Roedden ni'n chwerthin llawer, yn mwynhau'r heulwen, yn cymryd y cwbl i fewn."

Ychwanegodd: "Roedden ni mor hapus.

"Dyma'r haf cyntaf i ni i gyd ei gael gyda'n gilydd.

"Doedd dim byd i fynd â'n sylw, neb arall. Dim ond fi a fy mhlant, dyna oll."

'Y bobl mwyaf drwg ar wyneb daear'

Mae disgwyl i Michael a Kerry Ives, a'u merch Shannon, gael eu dedfrydu ar 3 Hydref.

Dywedodd Mr Griffiths ei fod yn credu mai Michael a Kerry yw'r "bobl mwyaf drwg ar wyneb daear, yn ôl pob tebyg".

"Maen nhw'n sbwriel ffiaidd," meddai.

"Dydyn nhw ddim yn haeddu gallu anadlu tra nad yw fy mab yn cael gwneud hynny."

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydden nhw'n cael dedfryd o garchar am oes ac yn treulio gweddill eu bywyd o dan glo.

"Dydw i ddim yn credu y gallai unrhyw gosb wneud iawn am yr hyn maen nhw wedi'i wneud."

Dywedodd ei fod wedi ei "siomi'n ofnadwy" yn Shannon.

"Byddwn i'n dweud fy mod i'n flin, ond mae wedi mynd yn bellach na hynny.

"Rwy'n ffieiddio ac yn siomedig ym mhopeth mae hi wedi'i wneud a'i ddweud a'i ddangos."

Dywedodd Mr Griffiths ei fod yn beio ei hun am "beidio â throi i fyny i'w thŷ" gan ei fod bellach yn credu y byddai wedi gallu tynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd.

"Rwy'n beio fy hun gryn dipyn am fod fawr o ddim wedi digwydd," meddai.

Mewn datganiad dywedodd cyngor Sir y Fflint ei bod yn "annirnadwy bod ei fywyd ifanc wedi'i gymryd gan y rhai a ddylai fod wedi ei amddiffyn".

Ychwanegodd y cyngor eu bod yn cydweithredu ag adolygiad ymarfer plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

"Yn unol ag arfer y cytunwyd arno, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi penodi panel i adolygu rôl yr asiantaethau," meddai'r cyngor mewn datganiad.

"Bydd yr adolygwyr annibynnol yn cyflwyno adroddiad yn nodi eu canfyddiadau a'u hargymhellion.

"Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r bwrdd diogelu i'w graffu ac i gynnig sicrhad."

Pynciau cysylltiedig