Gwahardd dyn o gemau pêl-droed wedi digwyddiad yng Nghaerdydd

Roedd Mackenzie Bailey ymysg criw o gefnogwyr Bristol City a ddaeth i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi cael ei wahardd rhag mynychu gemau pêl-droed yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr yng Nghaerdydd.
Roedd Mackenzie Bailey o Sir Gaerloyw ymysg criw o gefnogwyr Bristol City a ddaeth i'r brifddinas ar gyfer gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd fis Chwefror.
Dywedodd Heddlu De Cymru y cafodd ei weld yn taflu can o alcohol ar dafarn O'Neill's ar Stryd Wood.
Fe wnaeth heddweision ei adnabod yn y stadiwm yn ddiweddarach, ble cafodd ei arestio ar amheuaeth o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Mae Bailey wedi cael gorchymyn gwahardd pêl-droed - football banning order - sy'n ei atal rhag mynychu unrhyw gêm bêl-droed yn y DU am dair blynedd.
Cafodd hefyd ddirwy o £500 a'i orchymyn i dalu £85 mewn costau, a gordal o £200.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd15 Chwefror