Beth fydd yn digwydd i Gapel Aberfan?

Blaen y capel
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1966, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel lle ar gyfer cyrff y bobl a fu farw yn dilyn trychineb Aberfan

  • Cyhoeddwyd

Mae'r llun o fachgen bach wedi marw gyda losin yn ei law yn dal i roi hunllefau i Rob MacIntyre, dros 57 mlynedd ers trychineb Aberfan.

Rob a thri o'i ffrindiau oedd rhai o'r cyntaf i gyrraedd y safle ar ôl y digwyddiad.

Ym mis Hydref 1966, fe wnaeth tomen o lo lithro i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd ac 18 o dai yn y pentref, gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn.

Bu Rob a'i ffrindiau yn glanhau cyrff tua 20 o blant a gafodd eu cludo i Gapel Aberfan.

"Dydw i DAL heb ddelio gyda hynny, dim ond 19 oeddwn i ar y pryd," meddai Rob sydd bellach yn 77.

Dim ond gweddillion y capel sydd i'w gweld erbyn hyn, yn dilyn tân yn 2015.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 116 o blant a 28 oedolyn eu lladd yn nhrychineb Aberfan

Cafodd cyrff eu cadw yng Nghapel Aberfan pan nad oedd lle i ragor o gyrff yng Nghapel Bethania yn Aberfan.

Bu'n rhaid i rieni aros mewn rhes y tu allan i'r adeilad i weld a oedd cyrff eu plant wedi cael eu darganfod yn y gweddillion.

Yn gynharach eleni, fe ddaeth hi i'r amlwg fod Capel Aberfan yn un o'r 2,709 adeilad cofrestredig sydd dan fygythiad yng Nghymru.

'Ni oedd rhai o'r cyntaf yno'

Ar ddiwrnod y drychineb roedd Rob a'i ffrindiau, oedd yn rhan o'r llynges ar y pryd, ar eu ffordd i nôl hofrennydd yn Aberhonddu pan welson nhw domen o lo yn llithro lawr y mynydd.

"Fe wnaethon ni ei gweld hi'n llithro lawr, drwy ffermydd a thai... ond doedden ni ddim yn gwybod fod ysgol yno," meddai.

"Fe ddywedon ni 'mae'n rhaid i ni fynd i'w helpu nhw'. Ni oedd rhai o'r bobl gyntaf yno."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na deimladau cymysg beth ddylai ddigwydd i Gapel Aberfan

I ddechrau fe geision nhw dynnu pobl o'r gweddillion gan ddefnyddio eu dwylo cyn i Rob a'i ffrindiau gael eu symud i Gapel Aberfan i lanhau cyrff tua 20 o blant cyn i'w rhieni ddod i'w hadnabod nhw.

Dywedodd Rob ei fod yn "dal i feddwl bron bob dydd o'r wythnos" am gorff un bachgen oedd yn saith neu wyth oed.

"Roedd ganddo losin yn ei law ac fe allai weld y losin yn ei law hyd heddiw.

"Fe wnaeth hynny dorri fy nghalon i... dwi'n dal i gael hunllefau."

"Doeddwn i ddim yn gallu wynebu gweld y rhieni... roedd y mamau ar eu pengliniau a doedden ni ddim yn gallu gwneud unrhywbeth.

"Roedd un ferch tua 21 neu 22 ac roedd ei mab hi yna ac fe ddywedodd wrtha i 'ble mae Duw?' Roeddwn i mor flin."

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd angladd ei gynnal ar gyfer 81 o blant ac un oedolyn wythnos ar ôl y drychineb

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fe aeth Rob i Bosnia, Iran a Yemen lle welodd bethau "erchyll" ond mae'n egluro na welodd unrhyw beth mor afiach â'r hyn a welodd yn Aberfan.

"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn deall hyd heddiw faint na'th y drychineb effeithio ar y gymuned."

Yn 2015, bron i 50 mlynedd ers y drychineb, cafodd Capel Aberfan ei ddifrodi mewn tân.

Cafodd Daniel Brown, 26, ei anfon i garchar am bum mlynedd ar ôl cyfaddef cynnau'r tân.

Disgrifiad o’r llun,

David Pritchard oedd y gweinidog yng Nghapel Aberfan pan gafodd ei ddifrodi yn y tân

David Pritchard oedd y gweinidog yn y capel adeg y tân.

Roedd wedi rhoi goriadau i Daniel Brown oedd yn glanhau'r capel yn wirfoddol ac fe aeth Brown ati i gynnau'r tân cyn cerdded adref.

Yn ôl David, mae hanes trist y capel yn golygu bod nifer o bobl yn Aberfan wedi bod yn amharod i fynd i'r adeilad.

"Sut allan nhw? Roedd llawer o boen o hyd... mae'r creithiau yn dal yna."

"Fe wnaeth y digwyddiad effeithio ar grefydd yng Nghymru mewn ffordd ofnadwy. Yn bersonol dwi'n credu bod degau ar filoedd o bobl wedi rhoi'r gorau i gredu mewn Duw," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Patrick Olner
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gaynor Madgwick ei hanafu yn nhrychineb Aberfan ac mi gafodd ei brawd a'i chwaer eu lladd

Cafodd Gaynor Madgwick ei hanafu'n ddifrifol yn nhrychineb Aberfan ac fe gafodd ei brawd, Carl, oedd yn saith, a'i chwaer, Marilyn, 10, eu lladd.

Roedd hi'n wyth oed ac yn un o'r 240 o blant oedd yn Ysgol Pantglas adeg y drychineb.

"Fe wnaeth fy rhieni roi'r gorau i gredu mewn Duw dros nos.

"Roedd pobl yn gofyn 'Pam fod Duw wedi gadael i hyn ddigwydd'?"

Dydi Gaynor ddim yn gwybod os cafodd ei brawd a'i chwaer eu cludo i Gapel Bethania neu Aberfan, ond mae'n dweud bod Capel Aberfan wedi parhau i fod yn bwysig i'r gymuned.

"Allwch chi weld pam, pan gafodd yr adeilad yma ei ddifrodi, roedd y gymuned yn ofnadwy o drist."

Mae Gaynor yn dweud bod yr adeilad yn edrych yn ofnadwy erbyn hyn ac mi hoffai hi ei weld yn cael ei ailadeiladu a'i droi'n ganolfan hanesyddol.

Ffynhonnell y llun, Phillip Bunce
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Capel Aberfan, sy'n dyddio nôl i 1876, ei ddinistrio yn llwyr gan y tân yn 2015

Mae David yn credu bod angen cadw rhannau o'r capel gwreiddiol.

Dywedodd: "Byddai'n hyfryd cael cofeb yna - gardd brydferth fel y gall pobl fynd mewn ac eistedd ar feinciau a chael gardd gyda blodau."

"Byddai hynny'n hyfryd".

Ond yn ôl Rob, mae'r atgofion o'r hyn ddigwyddodd yn y capel yn rhy boenus ac yn ei atgoffa o'r drychineb.

"Dydw i ddim eisiau i'r capel fod yna... mae gormod o bethau erchyll wedi digwydd yna."

Pynciau cysylltiedig