Cyhuddo saith wedi anrhefn dreisgar yng Nghasnewydd

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Commercial ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd am tua 15:20 ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae saith o bobl o Gasnewydd wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag adroddiadau o anhrefn dreisgar yn y ddinas.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Commercial ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd tua 15:20 ddydd Gwener, 1 Awst.
Cafodd chwe dyn 25, 28, 33, 40, 42 a 52 oed a bachgen 17 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi anhrefn dreisgar wedi'r digwyddiad.
Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 4 Awst.
Mae wythfed person, dyn 40 oed o Gasnewydd, hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anhrefn dreisgar ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, John Davies: "Rwy'n gobeithio bod y cyhuddiadau hyn yn dangos i'n cymunedau ein bod wedi buddsoddi'n helaeth mewn ymateb ac ymchwilio i adroddiadau am droseddau ac ein bod wedi ymrwymo i helpu i gadw strydoedd Gwent yn ddiogel."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.