Gwrthod cais dyn i erlyn Cyngor ar ôl colli Bitcoin gwerth £600m

James Howells
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd cyn-bartner James Howells wared ar y darn, drwy gamgymeriad, yn 2013

  • Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi gwrthod ymgais dyn i erlyn Cyngor Dinas Casnewydd ar ôl i'w gyn-bartner gael gwared ar Bitcoin sydd bellach werth £600m.

Cafodd y darn o gyfrifiadur ei daflu - drwy gamgymeriad - i safle tirlenwi yn y ddinas yn 2013.

Bitcoin yw'r arian dychmygol sy'n cael ei ddefnyddio yn y byd cyfrifiadurol ac mae modd ei gyfnewid am nwyddau ar-lein.

Roedd y Cyngor wedi gofyn i farnwr Uchel Lys i ddileu achos cyfreithiol James Howells, a oedd yn mynnu cael mynediad i'r safle tirlenwi neu gael £495m o iawndal.

Dadl Mr Howells oedd fod ei gyn-bartner wedi taflu y gyriant caled (hard drive) a oedd yn cynnwys manylion y Bitcoin mewn camgymeriad yn 2013, a'i fod felly am gael mynediad i'r safle er mwyn chwilio amdano.

Ond dywedodd y Barnwr Keyser KC nad oedd "sail resymol" dros ddwyn yr achos ac nad oedd gan Mr Howells unrhyw "obaith realistig" o lwyddo mewn achos llawn.

'Eiddo i'r cyngor'

Yn ystod y gwrandawiad ym mis Rhagfyr clywodd y llys fod Mr Howells wedi bod yn delio â'r arian cyfrifiadurol ers tro a'i fod wedi'i gloddio'n llwyddiannus.

Wrth i werth yr hyn oedd ar goll gynyddu, trefnodd Mr Howells dîm o arbenigwyr i geisio dod o hyd iddo a chael mynediad i'r safle tirlenwi.

Roedd wedi gofyn droeon am ganiatâd gan Gyngor Dinas Casnewydd i gael mynediad i'r safle, ac wedi cynnig cyfran o werth y Bitcoin coll i'r cyngor pe bai'n llwyddo i ddod o hyd iddo.

Roedd y cynnydd yng ngwerth y Bitcoin yn golygu ei fod werth bellach tua £600m.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyngor wedi dadlau nad oedd hi'n bosib archwilio'r safle tirlenwi

Ond fe wnaeth bargyfreithiwr ar ran Cyngor Dinas Casnewydd ddadlau fod cyfreithiau presennol yn nodi bod y gyriant caled yn eiddo i'r cyngor wedi iddo ddod mewn i'r safle tirlenwi.

Dywedodd hefyd y byddai trwyddedau amgylcheddol yn gwahardd unrhyw ymgais i gloddio'r safle i chwilio am y gyriant caled.

Roedd y cynnig i roi 10% o'r Bitcoin i'r gymuned leol yn annog y cyngor i "weithredu'n gyflym ac yn ddi-hid", meddai James Goudie KC.

Mewn dyfarniad ysgrifenedig dywedodd y Barnwr Keyser KC ei fod yn dileu'r ymgais a gafodd ei gyflwyno gan Mr Howells, gan ddweud nad oedd "sail resymol dros ddwyn yr achos hwn".

Ychwanegodd: "Rwyf hefyd o'r farn na fyddai gan y cais unrhyw obaith realistig o lwyddo pe bai'n mynd i achos."

Pynciau cysylltiedig