Arestio dau wedi ymosodiad ar bêl-droediwr yng Nghaerdydd

Joel Collins.Ffynhonnell y llun, Avenue Hotspur
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joel Collins yn derbyn triniaeth ar ôl torri padell ei ben-glin yn y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad treisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Anafwyd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - yn dilyn y gêm yn erbyn Llanrumney Athletic, ac mae'n derbyn triniaeth.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gafon nhw eu galw i aflonyddwch tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol ychydig ar ôl 16:00.

Mae'r ddau ddyn - un 28 oed o ardal Trowbridge ac un 22 oed o Lanrhymni - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac anhrefn treisgar.

Yn ôl yr heddlu bu sawl ymosodiad, gan gynnwys ar un dyn 32 oed o Drelái a gafodd anaf difrifol, ac fe gafodd cerbyd ei ddifrodi hefyd.

Mae'r ddau ddyn yn nalfa’r heddlu ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig