Cymru i redeg cynllun dychwelyd poteli a chaniau ei hun

Ailgylchu poteliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw cynnig arian neu dalebau i bobl pan maen nhw'n dychwelyd poteli neu ganiau gwag i'w hailgylchu neu ail ddefnyddio

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhedeg eu cynllun dychwelyd poteli a chaniau eu hunain, yn hytrach nag ymuno â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y bwriad yw cynnig arian neu dalebau (vouchers) i bobl pan maen nhw'n dychwelyd poteli neu ganiau gwag i'w hailgylchu neu ail ddefnyddio.

Mae’n golygu y bydd cynllun yn cael ei lansio’n hwyrach na'r gwledydd eraill, sy’n bwriadu dechrau yn 2027.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi methu â dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU er mwyn gweithio ar y cyd.

Mae Llywodraeth Cymru am gynnwys poteli gwydr yn eu fersiwn nhw o'r cynllun, ond mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai hynny'n ychwanegu "cymhlethdod diangen i'r diwydiant diodydd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau tebyg eisoes yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi beio rheolau marchnad fewnol y DU a gafodd eu hetifeddu gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol.

Dyw hi ddim yn glir pryd yn union y bydd y cynllun Cymreig yn dod i rym, ond mae swyddogion yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith angenrheidiol tan dymor nesaf y Senedd sy'n dechrau yn 2026 ac yn dod i ben yn 2030.

Roedd pedair gwlad y DU wedi bod yn cydweithio i gytuno ar ddull gweithredu ar y cyd.

Cymru yw'r unig wlad sy'n bwriadu cynnwys gwydr yn ei chynllun dychwelyd, ar ôl i Lywodraeth y DU wrthod caniatâd i’r Alban gynnwys y deunydd yn eu fersiwn nhw.

O dan Ddeddf y Farchnad Fewnol 2020, mae’n rhaid i lywodraeth San Steffan roi ei chaniatâd os yw llywodraeth ddatganoledig am gyfyngu ar fasnachu nwyddau mewn unrhyw ffordd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Irranca-Davies: "Yn yr amser sydd ar gael, ni fu'n bosib mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â gweithredu datganoli a achoswyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a etifeddodd Llywodraeth y DU gan y weinyddiaeth flaenorol.

“Yn anffodus, mae hyn yn golygu na allwn fwrw ymlaen â'r broses ar y cyd".

“Gyda Chymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu, mae'n ein rhoi mewn sefyllfa unigryw o roi cynllun ar waith mewn gwlad sydd eisoes â chyfraddau ailgylchu uchel."

Mae'n dweud bod hynny yn golygu eu bod nhw eisiau cynllun fydd yn eu galluogi i "adeiladu ar ein cynnydd hyd yma a chymryd y cam nesaf drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio".

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain, Gavin Partington ei fod yn "gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru sy’n tanseilio'r ymdrech i greu Cynllun Dychwelyd Ernes sydd yn unedig ar draws y DU".

Maen nhw'n dweud eu bod nhw dal yn ymrwymo i gynllun sy'n cynnwys caniau a phlastig.