Cyhuddo cyn-arweinydd y BNP o ysgogi casineb hiliol

Nick Griffin oedd cadeirydd y British National Party (BNP) o 1999 i 2014
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd y British National Party (BNP) wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ysgogi casineb hiliol ar ddau achlysur.
Yn ôl honiadau fe wnaeth Nick Griffin, 66, rannu cartŵn ar gyfrwng cymdeithasol yn 2021 oedd yn "fygythiol, yn cam-drin neu'n sarhaus".
Mae'r cyn-Aelod o Senedd Ewrop yn cael ei erlyn yn breifat gan yr Ymgyrch yn erbyn Gwrth-semitiaeth.
Mae'n un o sawl achos y mae'r grŵp wedi ei gyflwyno yn y llys yn ddiweddar.
Dywedodd Donal Lawler, ar ran yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth, fod y cartŵn wedi cael ei bostio ar gyfrif X Mr Griffin - oedd yn cael ei alw'n Twitter ar y pryd - pan oedd yn "unigolyn uchel ei broffil" gyda degau o filoedd o ddilynwyr.

Dywedodd y Prif Ynad, Paul Goldspring, os caiff Mr Griffin ei ganfod yn euog, yna ni fyddai pwerau Llys Ynadon Westminster yn "ddigonol"
Ni wnaeth Mr Griffin, sydd o'r Trallwng, gyflwyno ple ddydd Mercher yn Llys Ynadon Westminster, wrth iddo ymddangos drwy gyfrwng fideo.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Southwark ar 22 Rhagfyr.
Dywedodd y Prif Ynad, Paul Goldspring, os y caiff euogfarn "ni fyddai pwerau'r llys hwn yn ddigonol. Felly rwy'n anfon eich achosion yn ffurfiol i Southwark".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.