Seren Wrecsam 'yn cael ei asesu' ar ôl gwrthdrawiad car
- Cyhoeddwyd
Fe fydd capten clwb pêl-droed Wrecsam yn cael ei asesu gan y tîm meddygol wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad fore Mercher.
Er nad yw'r clwb wedi cadarnhau enw'r unigolyn, mae'r wasg yn lleol yn adrodd mai'r asgellwr James McClean yw'r chwaraewr dan sylw.
Dywedodd Wrecsam mewn datganiad fod aelod o'r tîm cyntaf wedi bod mewn gwrthdrawiad un cerbyd, a bod y gwasanaethau brys wedi ymateb i'r digwyddiad.
"Fe ddaeth y chwaraewr i'r clwb wedi'r digwyddiad a bydd yn cael ei asesu gan y tîm meddygol," meddai'r datganiad.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi eu galw i ddigwyddiad ar yr A534 ger Clwb Golff Wrecsam toc cyn 09:00 fore Mercher, a bod neb wedi eu hanafu yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad.
Fe fydd Wrecsam yn croesawu ceffylau blaen Adran Un, Birmingham City i'r Stok Cae Ras nos Iau.