Galw am £60m y flwyddyn i ddiogelu tomenni glo Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth y DU dalu £60m y flwyddyn i gadw tomenni gwastraff glo Cymru yn ddiogel, yn ôl gweinidogion Cymru.
Roedd gan Lywodraeth y DU "gyfrifoldeb moesol" i ddarparu arian yn y tymor hir i daclo'r broblem, yn ôl gweinidog cyllid Cymru, Rebecca Evans.
Yn dilyn tirlithriad ym Mhendyrys yng Nghwm Rhondda ym mis Chwefror, dangosodd arolwg bod bron i 300 o domenni glo yn anniogel ac yn peri risg uchel.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod rheoli tomenni glo wedi'i ddatganoli ac nid yn rhywbeth y byddan nhw'n "disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer".
Dywedodd llefarydd eu bod yn darparu £31m ar gyfer effaith Storm Dennis ym mis Rhagfyr 2020, ac roedd £9m ohono i atgyweirio tomenni glo bregus.
Roedd Llywodraeth Cymru "yn fwy na chael ei hariannu'n ddigonol", ychwanegodd.
Ym mis Hydref 2020, dywedodd y prif weinidog, Boris Johnson mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd datrys y broblem o hen domenni gwastraff.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y gost o ddiogelu'r tomenni ymhell tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd pan ddaeth datganoli i rym yn 1999, ac y dylai Llywodraeth y DU rannu'r gost.
Rhoddodd llywodraeth Llundain £2.5m tuag at y gost o glirio 60,000 o dunelli o wastraff oedd wedi llithro oddi ar y domen ym Mhendyrys.
Ond dywed llywodraeth Caerdydd bod angen £500m-£600m dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, ac maen nhw wedi gofyn am £60m y flwyddyn yn ychwanegol i wynebu'r broblem.
Galwodd Ms Evans ar y canghellor, Rishi Sunak, i ddefnyddio ei adolygiad gwariant yn yr hydref, i ddosrannu arian tymor hir i'w pwrpas hwnnw.
Roedd effaith y diwydiant glo wedi gadael ei farc ar Gymru, meddai Ms Evans, ac roedd newid hinsawdd yn cynyddu'r risgiau gan hen domenni glo i'n cymunedau.
"Fel mater cyn-datganoli, rydym angen i Lywodraeth y DU rannu'r cyfrifoldeb a rhwystro tirlithriad arall rhag digwydd," meddai.
"Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i daclo'r mater ac ariannu'r costau tymor hir."
Mae Llywodraeth Cymru'n pwyso am strategaeth ar y cyd rhwng y ddwy lywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem.
Dros 2,000 o domenni
Dywedodd Rebecca Evans AS, Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fe fydd Llywodraeth Cymru yn wynebu "penderfyniadau anodd iawn" os na ddaw arian ychwanegol o San Steffan.
"Yn amlwg y flaenoriaeth yw cadw'r safleoedd yma'n ddiogel, mae hynny'n flaenoriaeth ni allwn osgoi," meddai.
"Mae hyn yn golygu bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd arian oddi wrth sectorau eraill rydym yn gyfrifol drostyn nhw."
Ychwanegodd bydd rhaid penderfynu os bydd arian yn cael ei "dorri" o adrannau megis adeiladau ysgolion, tai cymdeithasol, cynnal a chadw heolydd neu gynlluniau i wella gofal yn y GIG.
Mae gan Gymru dros 2,000 o domenni, gyda'r rhan fwyaf ar dir preifat, ac yng nghymoedd de Cymru.
O'r rhain mae 294 yn cael eu hystyried fel rhai risg uchel, sy'n golygu y gallent beryglu bywyd neu eiddo.
Mae 70 yng Nghaerffili, 64 yn Rhondda Cynon Taf, 59 ym Merthyr Tudful, 42 ym Mhen y bont ar-Ogwr, 35 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 16 ym Mlaenau Gwent ac wyth yn Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020