Beth fydd y gyllideb yn ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers 2009, fe fydd Llafur yn cyflwyno cyllideb o gynlluniau trethi a gwario i Brydain brynhawn Mercher.
Rachel Reeves sy'n gyfrifol am lunio'r gyllideb newydd - y fenyw gyntaf erioed i fod yn Ganghellor.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhybuddio bod trethi am orfod codi, gan gyfeirio at dwll ariannol o £22bn yn y coffrau, ond maen nhw’n mynnu y byddan nhw hefyd yn codi arian er mwyn buddsoddi at y dyfodol.
Beth felly fydd hyn i gyd yn ei olygu i Gymru, gyda dwy lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 am y tro cyntaf ers dros ddegawd?
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae Syr Keir Starmer wedi addo ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a throi cefn ar flynyddoedd o lymder.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y bydd mwy o arian i ysgolion ac ysbytai yn Lloegr, gyda disgwyl arian ychwanegol i Gymru yn sgil hynny.
Ond faint o arian a pha mor bell aiff yr arian hwnnw, yn wyneb y galwadau am arian gan bawb o’r gwasanaeth iechyd i addysg i gynghorau a thu hwnt?
Rhybudd rhag disgwyl cyllideb chwyldroadol i Gymru mae ysgrifennydd cyllid Cymru, Mark Drakeford, sydd wedi bod yn trafod gyda’r trysorlys.
Ond fe awgrymodd Mr Drakeford y bydd y gyllideb yn “gam cyntaf ar y daith” i adfer coffrau Cymru.
Busnesau bach
Er mwyn talu am unrhyw wariant ar wasanaethau o ddydd i ddydd, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn rhaid codi trethi.
Daw hynny er eu bod nhw wedi addo peidio codi treth ar “weithwyr” - gan gynnwys treth ar werth, treth incwm, nac yswiriant gwladol.
Ond mae disgwyl y bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan gyflogwyr yn codi – a hynny’n bryder i fusnesau bach, sy’n poeni y bydd hynny a chodi’r isafswm cyflog i weithwyr yn gost anodd ar eu busnesau.
Mae Cat Owen wedi bod yn rhedeg cwmni pobi ac addurno cacennau, Cat Food ers 10 mlynedd, tra hefyd yn gweithio rhan amser mewn swydd arall er mwyn cynnal ei hun.
Mae hi’n poeni y gallai newidiadau’r gyllideb roi pwysau ychwanegol ar ei busnes bach hi.
“Tuag at y Nadolig fydd gen i weithwyr ychwanegol yma yn pacio’r orders i gyd, felly mae’n poeni fi," meddai.
"Falle yn y gyllideb, y bydd National Insurance yn mynd i fyny o ran fi, ond nid o ran nhw, felly fydd hi’n costi mwy i fi gyflogi nhw flwyddyn yma.
"Fydd o’n effeithio ar faint o oriau dwi’n medru rhoi, effeithio ar faint dwi’n mynd i godi am bethau 'Dolig fi hefyd."
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw ar y Trysorlys i amddiffyn busnesau bach rhag y baich ychwanegol yma.
Cefn gwlad
Mae disgwyl hefyd i’r Canghellor godi arian trwy godi treth etifeddiaeth, a chodi’r dreth ar danwydd – dau newid fyddai’n cael effaith andwyol ar gefn gwlad Cymru, yn ôl y gwrthbleidiau.
Mae treth tanwydd wedi cael ei rewi ers dros ddegawd, ond ers 2022 mae Llywodraeth y DU hefyd wedi torri 5c y litr oddi ar bris tanwydd er mwyn helpu gydag effaith chwyddiant.
- Cyhoeddwyd29 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Hydref
Pe bai’r Canghellor yn codi pris tanwydd, byddai hynny’n cael effaith anghymesur ar gefn gwlad Cymru, lle mae llai o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl Sam Kurtz o’r Ceidwadwyr Cymreig.
Mae’r drefn sy’n caniatáu i dir amaeth gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf heb dalu treth etifeddiaeth hefyd dan y chwyddwydr gan y Canghellor.
Pe bai hynny yn newid, fe allai gael “effaith drychinebus ar ffermydd teuluol Cymru a’u cyfraniad cymdeithasol ac economaidd,” yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru Ben Lake.
Taliadau tanwydd y gaeaf
Mae gan Gymru ganran uwch o bensiynwyr na’r un wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae hynny’n golygu pryder uwch ynglŷn ag effaith y penderfyniad i dorri taliadau tanwydd y gaeaf i’r mwyafrif o bensiynwyr, gyda Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd 400,000 yn cael eu heffeithio yng Nghymru.
Bydd y newid yn cyfyngu’r taliad i bensiynwyr sy’n derbyn credyd pensiwn, ac yn arbed rhyw £1.4bn i’r Trysorlys eleni.
Ond mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio y gallai arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol, ac mae pwysau felly ar y llywodraethau San Steffan a Chaerdydd i sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i helpu unrhyw un sy’n wynebu caledi.
HS2
Mae HS2 - y cynllun rheilffordd cyflym newydd i gysylltu de a gogledd Lloegr - wedi bod yn destun dadleuol yng Nghymru ers ei gyhoeddi.
Does dim ceiniog ychwanegol yn dod i Gymru yn ei sgil, er gwaetha’r biliynau o wariant arno yn Lloegr.
Gwrthod galwadau am arian i Gymru wnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, a dyw Llywodraeth Lafur newydd y DU ddim wedi ymrwymo i hynny chwaith.
Mae pob plaid yn y Senedd wedi dweud bod y penderfyniad hwnnw yn annheg.
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi mynnu nad yw ei llywodraeth wedi “ildio” yn y frwydr honno, ond gyda Llywodraeth y DU yn cyfri' bob ceiniog, go brin y bydd y £4bn mae Plaid Cymru’n dweud sy’n ddyledus am y prosiect ar ei ffordd i Gymru wedi’r gyllideb.
Diogelu hen domenni glo
Mae dros 2,500 o hen domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys 350 sy’n cael eu hystyried yn rai risg uchel.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers blynyddoedd ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith o’u diogelu, gan amcangyfrif cost o ryw £500m dros 15 mlynedd.
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, yn dweud ei fod wedi bod ”mewn trafodaethau” gyda’r Trysorlys am hyn, a’i fod yn ”obeithiol” o weld symud i’r cyfeiriad hwnnw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref
- Cyhoeddwyd24 Hydref