Menyw oedd yn teithio mewn seicar wedi marw

Cafodd yr A4059 rhwng Storey Arms a Phenderyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chau ar gyfer ymchwiliad i'r gwrthdrawiad ac fe gafodd ei hailagor ychydig cyn hanner nosFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr A4059 rhwng Storey Arms a Phenderyn ei chau am rai oriau dydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i wrthdrawiad ble bu farw menyw oedd yn teithio mewn seicar (sidecar) beic modur.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 16:20 ddydd Sadwrn ar yr A4059 rhwng Storey Arms a Phenderyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dim ond y beic modur oedd yn rhan o'r digwyddiad, meddai'r heddlu.

Bu farw'r fenyw yn y fan a'r lle. Mae ei theulu yn cael cymorth swyddogion arbenigol.

Mae'r dyn a oedd yn gyrru'r beic modur yn yr ysbyty ar hyn o bryd gydag anafiadau difrifol.

Cafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymchwiliad i'r gwrthdrawiad ac fe gafodd ei hailagor ychydig cyn hanner nos.

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw dystion neu bobl sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw i gynorthwyo â'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig