'Dau ddiwylliant sy'n plethu': Dathlu bod yn Gymraes ac yn Somali

Mae Zaynab Ahmed, 17, yn dweud bod "diwylliant Cymru a Somaliland yn rhywbeth sy'n gallu plethu gyda'i gilydd"
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes Somali ifanc yn dweud bod hi'n bwysig dathlu'r cysylltiad rhwng Cymru a Somaliland.
Bu cynhadledd yn Grangetown, Caerdydd yn ddiweddar i goffáu 65 mlynedd ers pan gafodd Somaliland ei hannibyniaeth oddi wrth Brydain Fawr.
Yno yn cyfieithu areithiau a gafodd eu traddodi yn Saesneg a Somali i'r Gymraeg roedd Zaynab Ahmed, 17 oed.
"Dwi'n meddwl fod heddiw yn ddiwrnod pwysig i ni wybod am ein hanes ni, am ein diwylliant ni," meddai.
"Mae diwylliant Cymru a Somaliland yn rhywbeth sy'n gallu plethu gyda'i gilydd, a does dim rhaid i ni wahanu nhw."

Ymhlith y cynadleddwyr roedd nifer o do hŷn y gymuned, gwesteion o Senedd Somaliland a llawer o Somaliliaid ifanc Cymru oedd am ddysgu am eu hanes.
Mae Somaliland, gweriniaeth hunan-gyhoeddedig yng ngwaelod Affrica, â chysylltiadau dwfn â Chymru.
"Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i gymuned Gymreig Somaliland," meddai'r Athro Eid Ali Ahmed, "ac mae'n garreg filltir bwysig i'r gymuned hirhoedlog, sydd wedi bodoli yng Nghaerdydd ers dros 150 mlynedd."

Roedd yr Athro Eid Ali Ahmed yn falch iawn o weld pobl ifanc yn dysgu am hanes Somaliland
Mae Zaynab Ahmed, a fu mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, yn dweud ei bod yn teimlo "fy mod i'n Gymraes, byddwn i'n dweud fy mod i'n Somali, ac nid wyf yn credu y dylai rhywun orfod cyfaddawdu un i hawlio un arall".
"Roedd siarad Cymraeg yn rhywbeth roeddwn i bob amser yn ei wybod fel cefn fy llaw felly mae dod i le lle mae llawer o bobl yn synnu ac yn syfrdanu gyda hynny ac yn awyddus i ddysgu mwy yn wirioneddol arbennig," ychwanegodd.
Zaynab sy'n cyfieithu holl areithiau'r llwyfan.
"Mae tair iaith yn cael eu siarad heddiw – Saesneg, Cymraeg a Somali."
"Dwi'n meddwl bod yr iaith Gymraeg a'r iaith Somali yn ddwy iaith ddiddorol iawn sy'n dda i bawb ddysgu, yn enwedig wrth fyw yng Nghaerdydd."
Annibyniaeth ers 1991
Mae gan Somaliland hanes cymhleth - roedd dan reolaeth gwladychol Prydain am 72 mlynedd, nes iddi ennill annibyniaeth ar 26 Mehefin, 1960.
Bum diwrnod wedyn, ymunodd Somaliland yn wirfoddol â Somalia.
Ond ym 1991, ar ôl blynyddoedd o ryfel cartref creulon a dymchwel yr unben milwrol, Siad Barre, cyhoeddodd Somaliland annibyniaeth o Somalia.
Datblygodd system wleidyddol weithredol, sefydliadau llywodraethol, llu heddlu a'i harian ei hun, ond 34 mlynedd yn ddiweddarach nid yw'n cael ei chydnabod fel gwladwriaeth sofran.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor a Datblygu y Gymanwlad: "Mae'r DU yn credu bod setliad statws Somaliland yn fater i Mogadishu a Hargeisa ei benderfynu trwy broses ymgynghorol a deialog.
"Ochr yn ochr ag eraill yn y gymuned ryngwladol, nid ydym yn cydnabod datganiad unochrog o annibyniaeth Somaliland."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024