Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro

Bu farw dynes wedi gwrthdrawiad ar yr A477 yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Mercher.
Bu farw'r ddynes oedrannus yn y digwyddiad ar yr A477 rhwng Broadmoor a Redberth am tua 14:40.
Roedd dau gerbyd yn y gwrthdrawiad - Hyundai coch a oedd yn cael ei yrru gan y ddynes a Ford Transit Connect gwyn.
Bu'r ffordd ar gau tan 21:00 nos Fercher.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn gyrru ar y ffordd o gwmpas amser y gwrthdrawiad.
