Gething i wynebu pleidlais diffyg hyder yn y Senedd

Vaughan Gething
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Vaughan Gething yn wynebu pleidlais dyngedfennol yn Senedd Cymru yn ddiweddarach.

Y Ceidwadwyr sydd wedi gwneud y cynnig o ddiffyg hyder yn y prif weinidog yn dilyn wythnosau o feirniadaeth, yn cynnwys gan rai o fewn Llafur, o roddion ariannol i ymgyrch arweinyddol Mr Gething.

Gan fod yr un nifer o aelodau Llafur ag aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd, mae Mr Gething angen cefnogaeth pob aelod o'i blaid.

Ddydd Mawrth, dywedodd ei fod yn hyderus ynghylch y bleidlais.

Mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond does dim digon o aelodau i ennill pleidlais.

Byddai angen i aelod Llafur fynd yn erbyn y blaid, ymatal pleidlais neu fethu â phleidleisio er mwyn i gynnig y Ceidwadwyr lwyddo.

Yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei fod wedi dilyn y rheolau ar roddion.

"Dwi'n hyderus ynghylch yfory. Dwi'n edrych ymlaen at y ddadl y byddaf yn rhan ohoni."

Dywedodd y "gallwn a dylwn i, yn fy marn i, fod yn rhywle arall" - gan gyfeirio at seremoni i goffáu D-Day yn Portsmouth na fydd yn mynychu oherwydd y ddadl.

Ychwanegodd na fydd canlyniad y bleidlais yn orfodol, sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddo gamu i lawr petai'n colli.

Ond fe fyddai colli'r bleidlais yn ergyd drom i'w awdurdod fel prif weinidog.

'Awdurdod yn deilchion'

Hefyd ddydd Mawrth roedd beirniadaeth gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford am roi’r gorau i gynllun i dorri gwyliau haf yr ysgol.

Roedd Mr Drakeford yn feirniadol o lywodraeth Mr Gething am y penderfyniad "siomedig".

Cafodd y polisi ei gyflwyno pan oedd Mr Drakeford yn brif weinidog.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r prif weinidog wedi diraddio ei swydd, mae ei awdurdod yn deilchion ac nid yw'n gallu llywodraethu mewn cyfnod pan mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd ar eu huchaf o ganlyniad i'r Blaid Lafur."

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Mae anfodlonrwydd y prif weinidog i gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad yn dangos agwedd sy'n ddi-hid ac yn bryderus."