Drakeford yn beirniadu llywodraeth Gething dros wyliau ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi beirniadu llywodraeth Vaughan Gething yn chwyrn am roi’r gorau i gynllun i dorri gwyliau haf yr ysgol.
Mewn araith o feinciau cefn y Senedd, dywedodd y cyn-brif weinidog ei fod “wedi gwrando’n astud ar y datganiad siomedig y prynhawn yma”.
Yn amlwg yn grac wrth annerch yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, dywedodd ei fod yn difaru’r “niwed gwleidyddol” a’r “niwed i enw da” Cymru.
“Gadewch i ni fod yn glir mai’r hyn rydyn ni wedi’i glywed y prynhawn yma yw rhoi’r gorau i ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf,” meddai.
“Ni ddylai’r gweinidog geisio cuddio y tu ôl i semanteg wrth ddweud wrthyf mai ymrwymiad oedd hwn i archwilio diwygio’r diwrnod ysgol.”
Roedd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle wedi cyhoeddi fore Mawrth bod "amrywiaeth barn sylweddol" ar y mater.
"Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i drafod a gwrando ar ysgolion, athrawon ac undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ar y ffordd orau o weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol," meddai.
Dywedodd bod diwygiadau mawr fel y cwricwlwm newydd a newid y drefn anghenion dysgu ychwanegol yn "gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion".
"Maen nhw'n cefnogi ein huchelgais i drawsnewid addysg yng Nghymru ac mae angen amser a chyfle arnyn nhw i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc," meddai Ms Neagle.
"Rwy' am roi blaenoriaeth i'r diwygiadau sy'n mynd rhagddynt i ysgolion a gwella cyrhaeddiad, felly ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'r flwyddyn ysgol yn ystod tymor y Senedd hon."
Cyhoeddodd ei rhagflaenydd hi, Jeremy Miles, gynllun i symud wythnos o wyliau haf yr ysgol i hanner tymor yr hydref.
“Roedd yn ddechrau ar daith a fyddai wedi gwella’r canlyniadau i blant Cymru,” meddai Mr Drakeford.
Mae’n ymyriad sylweddol – a’r cyntaf i Mr Drakeford ers iddo drosglwyddo’r awenau.
Mae’n dilyn wythnosau o anniddigrwydd o fewn Llafur ynglŷn â’r rhoddion i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething.
Mae Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr.
Beth oedd y bwriad gwreiddiol?
Y bwriad gwreiddiol oedd ymestyn gwyliau hanner tymor hydref 2025 i bythefnos, a thorri gwyliau haf 2026 i bum wythnos yn hytrach na chwech.
Cafodd y cynlluniau eu gwrthwynebu gan undebau athrawon, trefnwyr y Sioe Frenhinol a chorff twristiaeth hefyd.
Mae'n golygu na fyddai unrhyw newid i'r flwyddyn ysgol tan o leiaf y flwyddyn ysgol 2028-29.
Dywedodd y llywodraeth bod ymgynghoriad ar y cynlluniau wedi denu 16,000 o ymatebion.
Cadarnhaodd llefarydd bod y broses o edrych ar ddiwygio'r tymor ysgol wedi costio tua £350,000.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Ionawr