Alun Wyn Jones wedi'i wneud yn gyrnol anrhydeddus gan y Brenin

Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Crown Copyright 2025
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Wyn Jones ei fod yn "falch iawn", yn ogystal â "braidd yn bryderus".

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-gapten tîm rygbi Cymru Alun Wyn Jones wedi cael ei wneud yn llysgennad i gatrawd milwyr wrth gefn y Fyddin yng Nghymru.

Cafodd Jones ei benodi'n gyrnol anrhydeddus 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol gan y Brenin Siarl III.

Dywedodd Jones, sy'n cyn-gapten i Gymru a'r Llewod, ei fod yn "falch iawn" ac "ychydig yn bryderus".

Chwaraeodd Jones, o Abertawe, 158 o weithiau i Gymru, a 12 i'r Llewod, gan ei wneud y chwaraewr rygbi sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau erioed.

Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Crown Copyright 2025

Yn ei rôl, bydd Jones yn gwisgo lifrai milwrol ac yn gwasanaethu fel llysgennad dros Gymru, gan "ysbrydoli cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol" o'r Cymry Brenhinol.

"Mae'n anrhydedd i ni ddod â rhyfelwr Cymreig gwirioneddol i'r gorlan," meddai'r Uwchfrigadydd Chris Barry, cyrnol y gatrawd.

Mae'r bataliwn yn cefnogi'r Fyddin yn ei gweithrediadau, gan gynnwys anfon milwyr dramor.

Dywedodd Jones, yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi, fod gweld y dynion a'r menywod mewn lifrai yn dal baner y Ddraig Goch "bob amser yn symbol arwyddocaol a theimladwy o hanes a'r cysylltiad â'r fyddin yng Nghymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig