Blair Murray i ennill ei gap cyntaf yn erbyn Fiji
- Cyhoeddwyd
Bydd asgellwr y Scarlets Blair Murray yn ennill ei gap cyntaf i Gymru ar ôl cael ei gynnwys yn y 15 cychwynnol i herio Fiji yng Nghyfres yr Hydref yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Cafodd Murray, 23, ei eni a'i fagu yn Seland Newydd ond mae'n gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam, sy'n wreiddiol o Donyrefail.
Bydd y canolwr Max Llewellyn yn ennill ei ail gap, tra bo'i gyd-chwaraewyr yng Nghaerloyw - Tomos Williams a Gareth Anscombe - yn fewnwr a maswr.
Gydag Anscombe yn cymryd y crys rhif 10, bydd Ben Thomas yn bartner i Llewellyn yn y canolwyr.
Ymysg y blaenwyr, mae prop Caerfaddon Archie Griffin wedi cael ei enwi er iddo gael diagnosis o broblem ar y galon, o'r enw pericarditis.
Mae'r chwaraewyr ail-reng Will Rowlands ac Adam Beard yn dychwelyd ar ôl colli'r gemau yn erbyn De Affrica ac Awstralia yn yr haf.
Ond dim ond ar y fainc mae'r blaenasgellwr Jac Morgan, ag yntau wedi bod yn delio gydag anaf bychan.
Dewi Lake sydd wedi ei ddewis fel capten ar gyfer Cyfres yr Hydref, er i Morgan ddychwelyd i'r garfan ar ôl colli'r daith i Awstralia oherwydd anaf.
Mae hi wedi dod i'r amlwg hefyd y bydd y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar ddyddiau'r gemau yng Nghyfres yr Hydref, a hynny fel ymgynghorydd.
Ar ôl colli eu naw gêm brawf ddiwethaf, mae cryn bwysau ar Warren Gatland i sicrhau fod canlyniadau yn gwella.
Byddai 10 colled yn olynol yn gyfartal â rhediad gwaethaf Cymru erioed.
Dywedodd Gatland: "Mae gennym wir gystadleuaeth yn y garfan ac felly 'roedd dewis y tîm yn galed iawn.
"Fe drafodon ni nifer o safleoedd am gyfnod maith ac 'ry’n ni’n hapus iawn gyda chydbwysedd y tîm sydd wedi cael ei ddewis yn y pendraw.
"Mae 'na gymysgedd braf o brofiad a ieuenctid yn y tîm yma fydd yn wynebu her gwirioneddol Fiji ddydd Sul.
"Ry’n ni’n gwybod pa mor beryglus y gall Fiji fod ac felly mae’n rhaid i ni fod yn gorfforol, effeithiol a digyfaddawd am yr holl 80 munud."
Tîm Cymru
Cameron Winnett; Mason Grady, Max Llewellyn, Ben Thomas, Blair Murray; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake (capt), Archie Griffin, Will Rowlands, Adam Beard, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright
Eilyddion: Ryan Elias, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Christ Tshiunza, James Botham, Jac Morgan, Ellis Bevan, Sam Costelow.
Gemau Cyfres yr Hydref Cymru
Cymru v Fiji - 13:40 dydd Sul, 10 Tachwedd
Cymru v Awstralia - 16:10 dydd Sul, 17 Tachwedd
Cymru v De Affrica - 17:40 dydd Sadwrn, 23 Tachwedd
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref