Dyfarnwyr Caerdydd i weithredu wedi achosion o gam-drin
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o ddyfarnwyr pêl-droed llawr gwlad wedi dewis peidio â chymryd rhan mewn gemau y penwythnos hwn mewn ymateb i achosion diweddar o gamdriniaeth.
Yn ôl Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd, maen nhw'n bwriadu tynnu eu gwasanaeth yn ôl yn sgil digwyddiad treisgar honedig mewn gêm ddiweddar yn y brifddinas.
Mae'r gweithredu ar 2 a 3 Tachwedd yn debygol o effeithio ar gemau yng Nghynghreiriau Cardiff and District, Cardiff Combination a Lazarou Cardiff Sunday League.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y gymdeithas fod eu haelodau yn pryderu am nifer y gemau sy'n cael eu dirwyn i ben yn gynnar, yn ogystal ag ymosodiad honedig ar ddyfarnwr.
"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, mae'r gymdeithas wedi penderfynu gweithredu," meddai'r datganiad.
"Nid oes modd i'r ymddygiad yma ar, ac oddi ar, y cae barhau, a'r gobaith yw y bydd y gweithredu digynsail yma yn anfon neges glir."
CBDC 'yn monitro'r sefyllfa'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC): "Mae'r gymdeithas yn monitro'r sefyllfa ar ôl i Gymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd ryddhau datganiad yn sôn am eu bwriad i dynnu eu gwasanaeth yn ôl.
"Mae CBDC mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd a Chymdeithas Bêl-droed De Cymru ynglŷn â'r mater hwn.
"Dyw CBDC ddim yn goddef unrhyw ymddygiad sy'n dwyn anfri ar y gêm, a dylai pawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed allu gwneud hynny yn ddiogel."
Ychwanegodd Cymdeithas Bêl-droed De Cymru eu bod yn "condemnio pob gweithred o drais ar y cae pêl-droed" a'u bod yn "parhau i ymdrechu i gefnogi swyddogion a delio â throseddau wrth iddynt ddigwydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023